Bloedd – Lleisiau Pobl Ifanc
Beth yw Bloedd?
Yn Gymraeg, ystyr Bloedd yw gweiddi.
Croeso i Bloedd; rhaglen gydweithredol Amgueddfa Cymru i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Dyma gyfle i chi gydweithio â'r Amgueddfa a datblygu projectau a meithrin gwybodaeth drylwyr am gelf, treftadaeth, diwylliant a hunaniaeth drwy arddangosfeydd, digwyddiadau, gweithdai, cyhoeddiadau a mwy!
Gallwch chi gymryd rhan mewn tair elfen fel rhan o raglen Bloedd
Mae Sesiwn Bloedd yn gyfle i gwrdd â'ch cyfoedion, a mynd ar deithiau a gweithdai tu ôl i’r llenni wedi’u trefnu gan Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, staff yr Amgueddfa neu weithwyr llawrydd sy'n aml yn archwilio rhannau o'r Amgueddfa sydd ar gau i'r cyhoedd.
Mae Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru’n cael cyfleoedd â thâl i weithio ochr yn ochr â staff yr Amgueddfa i ddatblygu pob math o brojectau dan arweiniad ieuenctid, herio strwythurau sefydliadol, rhoi llwyfan i'ch llais yn yr Amgueddfa ac ymgysylltu â chymunedau.
Mae Trawsnewid , ein grŵp LHDTC+ misol ar gyfer pobl ifanc yn cyfarfod yn rheolaidd ar gyfer sgyrsiau a gweithdai sy'n archwilio hunaniaeth, celf, hanes a threftadaeth cwiar yng Nghymru. Cynhelir y sesiynau ar-lein ac yn ein hamgueddfeydd. Mae'r grŵp yn agored i unrhyw un sy'n uniaethu fel LHDTC+ rhwng 16 a 25 oed.
Mae hi'n bwysig i ni fod hi'n hawdd i chi gysylltu â ni. Cewch gysylltu drwy e-bostio bloedd.ac@amgueddfacymru.ac.uk. Dilynwch ni ar Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am Bloedd!