Geirfa

Canllaw i gyfnodau cynhanesyddol a hanesyddol

Cynhanes –  Y cyfnod cynnar nad oes gennym gofnodion ysgrifenedig wedi goroesi ohono, h.y. o’r amserau cynharaf hyd at gyfnod y Rhufeiniaid (y ganrif 1af i’r 5ed ganrif OC).

Palaeolithig –  O tua 500,000 i tua 8,300 CC.

Mesolithig –  O tua 8,300 i tua 4,000 CC.

Neolithig –  O tua 4,000 i tua 2,500 CC.

Calcolithig / Yr Oes Gopr – O tua 2,500 i tua 2,200/2,100 CC.

Yr Oes Efydd –  O tua 2,500 i tua 800 CC.

Yr Oes Haearn –  O tua 800 CC i ganol neu ddiwedd y ganrif gynta OC.

Rhufeinig –  Yn draddodiadol, disgrifir y cyfnod Rhufeinig ym Mhrydain fel y cyfnod rhwng y goresgyniad yn 43 OC a 410 OC. Fodd bynnag, yng Nghymru, ni ddechreuodd y Rhufeiniaid reoli tan tuag 80 OC.

Y Canoloesoedd Cynnar –  O 410 OC tan oresgyniad y Normaniaid yn 1066.

Y Canoloesoedd –  O oresgyniad y Normaniaid yn 1066 tan tua 1500.

Y Cyfnod Ôl-ganoloesol – O’r 1540au tan ganol y 18fed ganrif.

Termau eraill

  • Arian wedi’i ddarnio
    Darnau bach o eitemau arian wedi’u malu. Gellid eu toddi i wneud eitemau eraill neu eu defnyddio i dalu am bethau.
  • Arian wedi’i oreuro
    Arian â haen o aur drosto i’w harddu ac atal tarneisio.
  • Bwyell socedog 
    Math o ben bwyell efydd a ddatblygwyd yn yr Oes Efydd Ddiweddar. Roedd iddo soced agored i gynnwys coes bren.
  • Bylchgrwn
    Fe'i defnyddir yn aml i ddisgrifio broetsh ar ffurf cylch anghyflawn, a ddefnyddid i gau dillad rhwng yr Oes Haearn a'r Canoloesoedd Cynnar.
  • Celc
    Grŵp o eitemau a gladdwyd gyda’i gilydd ar yr un pryd. (Nid yw’r term yn cynnwys eitemau sy’n gysylltiedig â beddau).
  • Creirgell
    Blwch bychan, wedi’i wneud o fetalau gwerthfawr a’i addurno’n gain gan amlaf, yn cynnwys creiriau sant (fel darnau o asgwrn, pren neu liain).
  • (Y) Diwygiad Protestannaidd 
    Cyfnod, a ddechreuodd yn yr 1530au ym Mhrydain, pryd y gadawodd rhannau o Ewrop yr eglwys Babyddol a sefydlu eglwysi Protestannaidd annibynnol.
  • Eiconograffig
    Yn cynnwys delwedd grefyddol.
  • Ingot
    Metal wedi’i gastio, yn aml i faint neu bwysau safonol, y gellir ei ddefnyddio wedyn i wneud pethau eraill.
  • Intaglio
    Carreg wastad a osodwyd mewn modrwy a ysgythrwyd â dyfais neu ddelwedd fel y gellir ei defnyddio fel selnod.
  • Lledfa
    Y rhan o fodrwy sydd yn y golwg. Gall fod wedi’i siapio, gall gynnwys carreg, neu gall fod wedi’i ysgythru.
  • Naddu fflint 
    Celfyddyd a gwyddor siapio taclau fflint.
  • Neddyf (bwyell gam)
    Teclyn i dorri a siapio pren. Tebyg i fwyell, ond bod yr ymyl dorri yn unionsgwar â’r goes.
  • Niwmismateg
    Astudio darnau arian, tocins a medalau.
  • Palstaf
    Math o ben bwyell efydd a ddefnyddid yn yr Oes Efydd Ganol. Roedd cantelau uchel yn ei ddal yn sownd wrth y goes.
  • Tomen sbwriel
    Lle i daflu sbwriel. Roedd rhai'n fach, ar gyfer sbwriel teuluoedd, ac eraill yn fwy lle teflid gweddillion gwleddoedd mawr neu weithgareddau cymunedol.