Digwyddiadau:Haf o hwyl gyda Amgueddfa Cymru
*Celfwaith: Rohanne Sanders
Ymunwch â ni am Haf o Hwyl ar draws ein saith amgueddfa genedlaethol.
Beth fyddwch chi’n ei ddarganfod yr haf hwn?
Mwynhewch grwydro orielau llawn straeon, rhoi cynnig ar weithgareddau ymarferol i'ch ysbrydoli, neu dreulio amser yn crwydro ac ymlacio yn yr awyr agored yn ein mannau agored.
Mae ein hamgueddfeydd yn rhad ac am ddim ac ar agor i bawb, sy'n golygu y gallwch chi ymweld â ni tro ar ôl tro. Mae bob amser rhywbeth newydd a chyfleoedd di-ben-draw i greu atgofion gyda’r teulu, ffrindiau neu i’w mwynhau ar eich pen eich hun.
Dechreuwch eich Haf o Hwyl gyda ni, a gweld ble mae'n eich arwain chi.
Sylwer y gall rhai digwyddiadau godi tâl ychwanegol, a gall taliadau parcio fod yn berthnasol. Ewch i dudalen yr amgueddfa am fanylion llawn.
Dod i adnbaod ein hamgueddfeydd:
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd - Bywyd a chymuned yng Nghymru ddoe a heddiw.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Caerdydd - Man cyfarfod celf, gwyddoniaeth a’r dychymyg.
Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon - Lle mae curiad calon diwydiant yn dal i atsain dan ddaear.
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe - Bwrlwm arloesi, y môr a phedwar ban byd.
Amgueddfa Lechi Cymru ,Llanberis, Bangor a Caernarfon - Iaith, crefft a bywyd bro’r llechi.
Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre - Brethyn bywyd: crefft, creadigrwydd a chymuned
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion - Lle mae darganfyddiadau heddiw yn adrodd stori Cymru ddoe.