Iaith, crefft a bywyd bro’r llechi.
Tra bod gwaith ailddatblygu a chadwraeth yn digwydd yn yr Amgueddfa, byddwn yn mynd â’n pobl, casgliadau a’n straeon ar y lôn i leoliadau sydd wrth wraidd stori’r llechi. Dewch i’n gweld yn y safleoedd yma:
Castell Penrhyn, Llandygai, Bangor. LL57 4HT
Yr Efail@CeiLlechi, Cei Llechi, Caernarfon LL55 2PB
Ysbyty’r Chwarel Parc Padarn Llanberis LL55 4TY
Mae ein hamgueddfeydd yn rhad ac am ddim ac ar agor i bawb, sy'n golygu y gallwch chi ymweld â ni tro ar ôl tro. Mae bob amser rhywbeth newydd a chyfleoedd di-ben-draw i greu atgofion gyda’r teulu, ffrindiau neu i’w mwynhau ar eich pen eich hun.
Rydym yn argymell gwirio'r amseroed agor cyn eich ymweliad. Mae mynediad i Ysbytu'r Chwarel a Chei Llechi yn rhad ac am ddim. Mae taliadau mynediad safonol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berthnasol yng Nghastell Penrhyn.
Dechreuwch eich Haf o Hwyl gyda ni, a gweld ble mae'n eich arwain chi.