Digwyddiad:Ysgrifen ar y Maen
Ymunwch â ni am weithdy creadigol wedi ei ysbrydoli gan y cerfiadau, y graffiti a’r marciau sydd wedi’u gadael ar waliau llechi Ysbyty Chwarel Dinorwig dros y blynyddoedd.
Byddwn yn edrych yn agos ar y cerfiadau – enwau, darluniau a marciau a adawyd gan bobl gyffredin fel ffordd o gofnodi eu presenoldeb a gadael olion ar y dirwedd. Beth oedd yn eu cymell i wneud hynny? Pa straeon allai fod yn cuddio y tu ôl i’r marciau hyn?
O dan ofal Rhodri Owen, bydd cyfranogwyr yn creu rhwbiadau o’r cerfiadau sy’n denu eu sylw, cyn defnyddio’r patrymau, ynghyd â ffotograffau hanesyddol ac elfennau eraill, i adeiladu gwaith celf haenog unigryw. Byddwn hefyd yn defnyddio cyanotype – proses argraffu sy’n creu delweddau glas trawiadol – i gofnodi olion ein dwylo ein hunain, gan ychwanegu haen newydd at y straeon sydd wedi’u hysgythru yn y llechi.
Trwy gydol y gweithdy, byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddychmygu a chreu stori sy’n cael ei hysbrydoli gan y bobl a fu’n gysylltiedig â’r ysbyty a’r chwarel. Wrth i fwy o bobl gymryd rhan, bydd y stori yn tyfu ac yn datblygu, gan greu cysylltiadau rhwng gwahanol leisiau, syniadau a phrofiadau.
Bydd y cywaith yma yn cael ei arddangos ar hysbysfyrddau dros dro o amgylch yr amgueddfa wrth i'r gwaith adeiladu fynd rhagddi - dewch i gyfrannu ôl eich hun at stori barhaus y lle hwn.
Gweithgaredd creadigol galw heibio i bawb, addas i oedolion a phlant. Nid oes angen unrhyw brofiad artistig blaenorol.
Am ddim.
Gwybodaeth
Digwyddiadau perthnasol
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd