Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy'n digwydd tu fewn i gwchgwenyn? Beth mae gwenyn yn ei wneud, a pham eu bod mor arbennig? Dewch i ymuno â'n Gwenynwr, Alyson Williams, wrth iddi egluro bywyd gwenyn mêl a'r holl weithgareddau maent yn gwneud o fewn y cwch.
Yn y sesiwn ymarferol hon, byddwn yn darparu siwt gwenyn a menig i chi, gallwch wedyn helpu i agor y cwch a gweld yr holl weithgareddau cyffrous eich hun, ble gallwch ddysgu am y gwenyn mêl ac efallai byddwch yn lwcus a gweld y Frenhines.
Mae'r sesiynau yma yn cynnwys, creu canhwyllau wasg, ymweld â'r gwenynfa a dysgu am gylch bywyd gwenyn mêl, cychod gwenyn, a cynhaeafu mêl.
Sesiwn teulu 11 am - oedran argymelledig 8+
Sesiwn oedolion 2 pm