Uchafbwyntiau

Mae'r Amgueddfa yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.
Cafodd y Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru effaith aruthrol ar Bobl, Cymunedau a Bywydau, heb sôn am weddill y byd. Byddwch yn ail-fyw hanes mewn cyfuniad cyffrous o’r hen a’r newydd yng nghanol datblygiadau diweddaraf ardal forwrol y ddinas.
Bobl, Cymunedau a Bywydau
Cefnogwch Amgueddfa Cymru, Cefnogwch Ein Cymunedau
Eleni, wynebodd cymunedau Cymru heriau na brofwyd erioed o’r blaen. Gan ddefnyddio casgliadau cenedlaethol Cymru, rydym yn cynorthwyo cymunedau drwy’r cyfnod anodd hwn.
Bydd pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth. Gallwch chi ein helpu ni heddiw?
Dewch i weld ein cyfoeth diwydiannol a morwrol mewn cyfuniad o arddangosfeydd rhyngweithiol ac arloesol, law yn llaw a rhai mwy traddodiadol. Dyma gyfle i ymwelwyr gael profiad ymarferol, heb ei ail, yn ein hamgueddfa genedlaethol ddiweddaraf.
Mae'r Amgueddfa yn hen warws rhestredig sy'n cysylltu ag adeilad o lechi a gwydr. Yma gallwch ddarganfod y Drafnidiaeth, Deunyddiau a Rhwydweithiau oedd yn mor bwysig, a'r 'pethau mawr' sydd wedi cyfrannu gymaint tuag at hanes diwydiannol ein cenedl.
Drafnidiaeth, Deunyddiau a Rhwydweithiau
Chi biau’r dewis yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Cewch brofi’r holl arddangosfeydd ac arddangosiadau a phori drwy’r wybodaeth fel y mynnoch.
Mae Gwnaed yng Nghymru yn edrych ar newidiadau gan arddangos rhai gwrthrychau ac arteffactau o’r cyfnod rhwng 1930 a heddiw.
Oriel Gwnaed yng Nghymru