Digwyddiad:Hwyrnos yr Amgueddfa: Helios
Mwynhewch Helios liw nos.
Am nifer penodol o nosweithiau dros yr haf byddwn ni'n agor ein drysau rhwng 6 a 10pm er mwyn i chi fwynhau gwaith yr artist Luke Jerram wrth i'r haul fachlud dros y ddinas.
Bydd cyfle i grwydro'r orielau a mwynhau celf a hanes natur rhyngwladol bwysig, cyn dychwelyd i weld Helios yng ngolau’r machlud.
Os ydych chi am fwynhau ychydig oriau gyda chydweithwyr ar ôl gwaith, neu gael amser i 'w gofio gyda theulu a ffrindiau, bydd y caffi'n gwerthu amrywiaeth o ddiodydd er mwyn i chi allu ymlacio dan olau'r Haul.
Mae'r tocynnau am ddim, ond rhaid archebu ymlaen llaw.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Digwyddiadau perthnasol
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd