Cwrs:Ioga gyda'r Machlud
Cymerwch eiliad yr haf hon i oedi ac ymlacio mewn sesiwn ioga arbennig iawn, o dan harddwch Yr Haul.
Bydd y sesiwn dawelu hon dan arweiniad yr hyfforddwraig ioga Eleri Morgan yn help i ymlacio gyda’r nos ym mawredd hanesyddol Prif Neuadd yr Amgueddfa –y tonig perffaith wrth i'r haul fachlud. Llifwch drwy symudiadau ysgafn wedi'u cynllunio i adfywio’r meddwl, y corff a’r enaid.
Gwybodaeth bwysig
- Mae'r sesiwn yn addas i oed 18+. Ni fydd unrhyw un o dan yr oedran hwn yn cael mynediad i'r digwyddiad.
- Bydd y sesiwn yn para tua 60 munud. Nid oes mynediad i'r orielau na gweddill yr Amgueddfa cyn nac ar ôl y sesiwn.
- Caiff y digwyddiad ei gynnal yn y Brif Neuadd o dan ein lleuad newydd! Mae rhai matiau ioga ar gael ond rydyn ni'n eich annog i ddod â'ch mat eich hun.
- Rydyn ni'n croesawu ac yn annog unrhyw lefel o brofiad ioga, ond cymerwch ofal wrth archebu a chofiwch ystyried eich iechyd eich hun.
- Ni fydd ein caffi ar agor ar gyfer y digwyddiad hwn, felly dewch â dŵr gyda chi. Ni chaniateir bwyd poeth na diodydd yn yr ardal ioga.
- Am ragor o wybodaeth am gyrraedd yr Amgueddfa, ewch i https://amgueddfa.cymru/caerdydd/ymweld/hygyrchedd-amgueddfa-genedlaethol-caerdydd/
- Ni fydd ad-daliad ar gael am docynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwbl hapus gyda'ch dewis cyn archebu
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Ioga o dan Yr Haul, Eglwys Gadeiriol Lerpwl © Rob Battersby
Digwyddiadau perthnasol
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd