Digwyddiad:Gwylliaid y Glannau
Croeso'r Gwylliaid i'r Glannau!
Mae'r bore yma ar gyfer plant cyn-ysgol a'u teuluoedd i fwynhau ein gardd GRAFT drefol hardd yn yr Amgueddfa.
Wedi'i redeg gan ein ffrindiau Cae Tan CSA, byddwn ni'n mwynhau gweithgareddau tymhorol creadigol sy'n ein cysylltu'n agos â natur yn ein gofod diogel.
Mae enghreifftiau o'r gweithgareddau'n cynnwys:
- Coginio tymhorol ar y tân
- Crefftau sy'n seiliedig ar natur
- Cegin fwd
- Chwarae gyda dŵr
- Amser stori
- Hau hadau
Ac i'r oedolion – paned am ddim
Mewn tywydd garw, mae yna le dan do i barhau â'r hwyl y tu mewn!
Mae Gwylliaid y Glannau yn amgylchedd di-dechnoleg
Gwisgwch ar gyfer chwarae yn yr awyr agored gyda hen ddillad nad oes ots gennych os ydyn nhw'n mynd yn fwdlyd.
Rhaid cadw lle - archebwch le i'ch plentyn YMA
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn, bob amser
Yn addas i blant rhwng 2 a 5 oed
Bob pythefnos ar ddydd Mercher (gydol amser tymor yn unig)
Gwybodaeth
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 14 Hydref 2026 | 10:30 | Gweld Tocynnau |
| 21 Hydref 2026 | 10:30 | Gweld Tocynnau |
Digwyddiadau perthnasol
Ymweld
Mynediad
Dyma wybodaeth am fynediad yn yr Amgueddfa gan gynnwys parcio, mynediad cadeiriau olwyn, lifftiau, cyfleusterau newid cewyn, cŵn tywys, adnoddau Braille a dolenni sain.
Canllaw MynediadParcio
Nid oes gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau faes parcio penodol.
Fodd bynnag, mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos o fewn pellter cerdded i’r Amgueddfa. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gyfleusterau parcio yma
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, siopa
- Mae ein caffi fod ar agor, ond yn cynnig darpariaeth cyfyngedig.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y marina sy’n fan braf.
Lleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd