Digwyddiad:Rhufeiniaid yn y Dref
Ymunwch â ni ym mis Awst ar ein diwrnodau Rhufeiniaid yn y Dref a chwrdd â chymeriad Rhufeinig o’r gorffennol – megis milwr, meddyg, gwraig swyddog neu gladiatiwr.
Bob dydd bydd un cymeriad Rhufeinig neu weithgaredd thematig, yn dibynnu ar y tywydd a’r argaeledd.
Efallai y byddwch yn:
- Sgwrsio â milwr Rhufeinig am ei offer
- Gwneud coron flodau er anrhydedd i’r dduwies Flora
- Cael cenhadaeth gan sgowt Rhufeinig
- Cwrdd â meddyg Rhufeinig a dysgu am ei waith
- Clywed am wledda gan Rufeiniwr cyfoethog.
Hoffech chi ddefnyddio eich Cymraeg wrth archwilio hanes y Rhufeiniaid? Mae croeso i ddysgwyr, teuluoedd a siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf sgwrsio, gofyn cwestiynau a darganfod straeon Caerllion Rufeinig. Dewch i gwrdd â'n hwylusydd mewn gwisg gyfnod sy'n siarad Cymraeg ar: 10–11 Awst, 17–19 Awst (2:00–4:00pm ar 19 Awst), 24–26 Awst (2:00–4:00pm ar 26 Awst), a 31 Awst.
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Digwyddiadau perthnasol
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd