Ymweld Am Ddim
Mynediad
Am Ddim
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Oriau Agor
Caer a Baddonau Rufeinig Caerllion
Os hoffech ymweld â Chaer a Baddonau Rufeinig Caerllion, ewch i wefan CADW.
Cysylltwch â ni
Ffôn: 0300 111 2 333
E-bost: LlengRufeinig@amgueddfacymru.ac.uk
Bwyta, Yfed, Siopa
- Nid oes caffi yn yr Oriel ond ceir nifer o fannau bwyta yng nghanol tref Caerllion.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, ond nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa.
Grwpiau
Mae'n bosibl cynnal ymweliadau grŵp yn ystod ein horiau agor arferol ac mae mynediad am ddim.
Archebwch le i'ch grŵp ymlaen llaw drwy e-bostio LlengRufeinig@amgueddfacymru.ac.ukam y manteision canlynol:
- Gostyngiad o 10% yn y siop (o wario o leiaf £5 y pen) ar gyfer eich ymwelwyr.
- Lluniaeth am ddim i yrwyr Bysiau (wrth ddangos prawf ID).
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleParcio
Gallwch barcio naill ai ar Broadway (ger yr amffitheatr), Stryd yr Amgueddfa (nifer gyfyngedig o lefydd parcio) neu oddi ar y Stryd Fawr ger y Baddonau. Mae cyfleusterau parcio beiciau ar gael yn yr amffitheatr.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Ydw i’n gallu dod a’r ci?
Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn croesawu cŵn cymorth sydd wedi'u hyfforddi, ond ni chaiff anifeiliaid eraill fynediad i adeiladau'r amgueddfa.
Cefnogwch Ni
Mae Amgueddfa Cymru yn elusen. Bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth gennym, neu yn cyfrannu rhodd boed fawr neu fach, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rhowch os gallwch chi.
Darganfod atyniadau eraill yn yr ardal:
Dewch i ddarganfod stori Cymru