Camwch nôl mewn amser yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ac archwiliwch fywyd yn un o allorsafoedd pellennig yr Ymerodraeth Rufeinig.
Cymru oedd un o gadarnlefydd pellaf yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd.
Dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni. Gallwch weld Arddangosfeydd ac Arteffactau yn ddangos sut roeddent yn byw, brwydro, addoli a marw.
Cefnogwch Amgueddfa Cymru, Cefnogwch Ein Cymunedau
Eleni, wynebodd cymunedau Cymru heriau na brofwyd erioed o’r blaen. Gan ddefnyddio casgliadau cenedlaethol Cymru, rydym yn cynorthwyo cymunedau drwy’r cyfnod anodd hwn. Bydd pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth. Gallwch chi ein helpu ni heddiw?
Mwynhewch olygfeydd, synau ac arogleuon ein Gardd Rufeinig brydferth. Yn ystod gwyliau'r ysgol gall plant wisgo gwisg Rhufeinig a chymryd rhan mewn pob math o weithgareddau. Sut deimlad oedd bod yn filwr Rhufeinig? Rydym yn falch iawn o'n cyfleusterau addysgiadol ac ardal hwyl i'r teulu arobryn.
Roedd Caerllion yn un o dair Caer barhaol a godwyd yn y Brydain Rhufeinig. Saif yr Amgueddfa oddi mewn i olion y gaer. Mae'r Adfeilion yn cynnwys yr Amffitheatr mwyaf cyflawn ym Mhrydain a'r unig olion o Farics Lleng Rufeinig ar ddangos unrhyw le yn Ewrop.
Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymry yn ymchwilio, cadw ac arddangos hanner miliwn o wrthrychau o geiri Rhufeinig Caerllion (Isca), Brynbuga (Burrium) a'r cyffiniau. Mae'n gasgliad o bwys rhyngwladol sy'n cynnig tystiolaeth am fywyd mewn dau safle milwrol Rhufeinig, yn ogystal â bywyd yn yr aneddiadau sifil a dyfodd o'u hamgylch.