Digwyddiad:Gweithgareddau'r Haf yn Amgueddfa Wlân Cymru

Amgueddfa Wlân Cymru
Wedi'i Orffen

Ymunwch â ni yr Haf hwn am amrywiaeth o weithgareddau galw heibio am ddim ar draws yr Amgueddfa.

* Darganfyddwch ein Llwybr Stori Wlanog ryngweithiol newydd i Deuluoedd

* Archwiliwch ein Llwybr Ddôl

* Cymerwch ran mewn gweithgareddau crefft galw heibio yn ein Gofod Gwneud a Chreu newydd. Bydd y gweithgareddau'n amrywio drwy gydol yr haf a gallant gynnwys bagiau lafant, blodau'r haf, pom-pomau a mwy

* Mwynhewch weithgareddau ymarferol y Cart Celf i blant

* Gwyliwch amrywiaeth o arddangosiadau crefft a pheriannau hanesyddol sy'n digwydd drwy gydol yr wythnos.

Sylwer y gall gweithgareddau ac amseroedd yr arddangosiadau amrwyio o ddydd i ddydd. Os hoffech wybod  beth sy'n digwydd ar ddiwrnod penodol,  ffoniwch yr Amgueddfa cyn eich ymweliad ar 02920 573070.

Yn chwilio am ragor? Dewch i ddarganfod ein digwyddiadau eraill sy'n cael eu cynnal dros yr haf!

Croeso gwlanog i bawb!

Gwybodaeth

Dydd Mawrth - Dydd Sadwrn, 18 Gorffennaf - 6 Medi 2026
Pris Am ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Galw Heibio
Nyddu
Llwybr Ddol
Teulu AWC

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau