Digwyddiad:Gŵyl Fwyd Sain Ffagan

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Wedi'i Orffen

Ffefryn cadarn yng nghalendr bwyd Cymru, bydd Sain Ffagan yn dod yn fyw gyda dros 70 o stondinau bwyd, diod a chrefft yn nythu ymhlith yr adeiladau hanesyddol.

Mwynhewch wledd o weithgareddau bwyd sy'n addas i deuluoedd, arddangosiadau coginio, danteithion blasus a cherddoriaeth gan rai o gynhyrchwyr gorau Cymru.

Byddwn yn cyhoeddi mwy o wybodaeth am stondinwyr a rhaglen gweithgareddau'r ŵyl cyn bo hir - cadwch lygad ar wefan yr Ŵyl Fwyd am y newyddion ddiweddaraf.

Gwefan yr Ŵyl Fwyd

Gadewch i ni wybod eich bod yn dod i'r digwyddiad ac ymunwch â’n rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf am yr Ŵyl Fwyd. Fel diolch, cewch 10% i ffwrdd yn siop yr Amgueddfa yn ystod penwythnos yr ŵyl!

Cofrestrwch eich diddordeb

Cefnogir gan Bwyd a Diod Cymru

Mae gweithgareddau addysg yr ŵyl wedi eu cefnogi'n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery.

Gwybodaeth

12 a 13 Medi 2026, 10am-6pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Dau ddyn a ddwy ddynes yn gwenu wrth dal bwyd stryd. Yn y cefndir mae baneri lliwgar a stondinau bwyd
Loteri Cod Post y Bobl mewn llythrennau coch a fras

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau