Digwyddiad:Teithiau Tanddaearol Am Ddim
Ymunwch â ni ar y Daith Dan Ddaear fyd-enwog - AM DDIM!
Teithiwch 300tr lawr i grombil y ddaear gyda tywysydd i weld sut beth oedd bywyd i'r miloedd o ddynion, menywod a plant oedd yn gweithio yn y pyllau glo.
Rhaid i blant fod dros fetr o daldra i fynd ar y daith dan ddaear.
Cliciwch YMA i adael i ni wybod os ydych yn bwriadu ymuno â ni, yna dewch draw ar y diwrnod ac ymunwch â'r daith nesaf sydd ar gael.
Sylwer:
Mynediad
- Dyrennir pob lle am ddim ar y Daith Danddaearol ar sail y cyntaf i'r felin, felly dewch yn gynnar er mwyn osgoi siom.
- Nid yw rhoi gwybod i ni eich bod yn bwriadu ymweld yn gwarantu lle ar Daith Danddaearol.
- Rhaid i unrhyw berson o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
- Rhaid i ymwelwyr fod dros 1 metr o daldra i gymryd rhan yn y Daith Danddaearol.
Eich Ymddygiad
- Tra byddwch chi ac ymwelwyr eraill yn Big Pit, rhaid i chi gydymffurfio â holl gyfarwyddiadau ein staff, yr holl hysbysiadau iechyd a diogelwch perthnasol, polisïau a chyhoeddiadau sydd ar gael i chi.
- Bydd unrhyw doriad o unrhyw un o'r telerau hyn, neu unrhyw ymddygiad annerbyniol gennych chi neu eich gwesteion sy'n debygol o achosi difrod, niwsans neu anaf i unrhyw ymwelydd arall, aelod o'n staff neu i Big Pit ei hun, yn rhoi hawl i staff Big Pit eich gwahardd o'r safle ar unwaith.
- Mae gennym yr hawl i wrthod mynediad neu i ofyn i unrhyw ymwelydd adael Big Pit os ydym o'r farn y gallai caniatáu mynediad beri risg i'n heiddo, diogelwch eraill a/neu effeithio ar fwynhad ymwelwyr eraill o Big Pit.
- Gwaherddir yn benodol i chi gopïo, atgynhyrchu neu ailgyhoeddi unrhyw ran o'r arddangosfeydd neu'r dehongliad yn Big Pit. Mae'n drosedd gopïo, neu geisio copïo, deunyddiau a ddiogelir gan hawlfraint sydd i'w gweld yn Big Pit.
Diogelwch
- Er budd diogelwch, efallai y gofynnir i chi ganiatáu chwiliad o'ch person neu'ch eiddo. Bydd unrhyw un sy'n gwrthod caniatáu chwiliad, neu sy'n meddu ar ddeunyddiau y credwn eu bod yn beryglus neu'n amhriodol, yn cael ei wrthod rhag mynd i mewn neu ei symud o Big Pit.
- Os ydych yn cyrraedd mewn car, bydd angen i chi dalu £5 y dydd am barcio wrth gyrraedd. Mae parcio AM DDIM i ddeiliaid bathodyn anabledd ac i feiciau modur.
- Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled, lladrad neu ddifrod i unrhyw gerbyd (na'i gynnwys) tra bydd wedi'i barcio ar ein heiddo.
- Gwaherddir parcio ar y ffyrdd o amgylch Big Pit, y tu allan i'r man parcio dynodedig.
Gwybodaeth
Digwyddiadau perthnasol
Ymweld
Oriau Agor
Ar agor yn dyddiol 9.30yb - 5yp
Mynediad olaf: 4pm
Teithiau dan ddaear: 10yb - 3yp
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.
Parcio
Os ydych yn cyrraedd mewn car bydd angen i chi dalu wrth gyrraedd. £5 y diwrnod. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
Wedi ysbrydoli gan y profiad tanddaearol a'n casgliadau, bydd ein Siop Anrhegion ar agor yn ystod eich ymweliad, gyda detholiad o nwyddau ac anrhegion, wedi’u creu yn arbennig, ar gael i brynu.
Mae ein Siop Goffi ar agor yn dyddiol, 10am-4pm, ac yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa, ond gofynnwn i chi gymryd eich sbwriel adref gyda chi os gwelwch yn dda, a helpwch ni i gadw Big Pit yn daclus.
Lleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd