Ymweld Am Ddim
Mynediad
Mae mynediad i’r amgueddfa am ddim.
Mae'r teithiau tanddaearol ar gael bob dydd ac gellir eu harchebu am £5 y person. Dim ond ar ol cyraedd yr Amgueddfa mae'r tocynnau yma ar gael. Nid ydynt yn sicrhau amser penodol a mae'n bosibl y byddwch yn gorfod aros ychydig i fynd ar y daith, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur.
Os fyddai’n well gennych chi warantu eich lle ar y Daith Danddaearol, gallwch eu prynu ymlaen llaw gyda thocyn Job-A-Mas £8 sydd yn rhoi slot amser i bob person.
Teithiau Dan Ddaear AM DDIM i ymweliadau ysgolion o'r DU.
Oriau Agor
Ar agor yn dyddiol 9.30yb - 5yp
Mynediad olaf: 4pm
Teithiau dan ddaear: 10yb - 3yp
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa.
Cysylltwch â ni
Ffôn: 0300 111 2 333
E-bost: bigpit@amgueddfacymru.ac.uk
Parcio
Os ydych yn cyrraedd mewn car bydd angen i chi dalu wrth gyrraedd. £5 y diwrnod. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
Wedi ysbrydoli gan y profiad tanddaearol a'n casgliadau, bydd ein Siop Anrhegion ar agor yn ystod eich ymweliad, gyda detholiad o nwyddau ac anrhegion, wedi’u creu yn arbennig, ar gael i brynu.
Mae ein Siop Goffi ar agor yn dyddiol, 10am-4pm, ac yn gweini dewis cyfyngedig o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus.
Mae croeso i chi dod â phicnic i’r Amgueddfa, ond gofynnwn i chi gymryd eich sbwriel adref gyda chi os gwelwch yn dda, a helpwch ni i gadw Big Pit yn daclus.
Grwpiau
Mae'n bosibl cynnal ymweliadau grŵp yn ystod ein horiau agor arferol.
Archebwch le i'ch grŵp ymlaen llaw drwy e-bostio bigpit@amgueddfacymru.ac.uk am y manteision canlynol:
- Gostyngiad o 10% yn y siop (o wario o leiaf £5 y pen) ar gyfer eich ymwelwyr.
- Lluniaeth am ddim i yrwyr Bysiau (wrth ddangos prawf ID).
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleYdw i’n gallu dod a’r ci?
Mae Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru yn croesawu cŵn cymorth sydd wedi'u hyfforddi, heblaw ar y Daith Danddaearol, ond ni chaiff anifeiliaid eraill fynediad i adeiladau'r amgueddfa. Caiff cŵn (ac anifeiliaid cymorth emosiynol eraill) fynediad i'r mannau awyr agored yr Amgueddfa yn unig, ond rhaid eu cadw ar dennyn byr bob amser.
Cyngor cyffredinol i ymwelwyr
- Mae Big Pit ar lethr ar ochr bryn ac am hynny mae'r safle ar sawl lefel. Er bod rampiau rhwng y lefelau, maen nhw'n hir ac yn waith caled.
- Mae'r llawr ar y wyneb a dan y ddaear yn nodweddiadol o safle diwydiannol. Gwisgwch ddillad cynnes ac esgidiau cadarn.
- Mae'r llawr yn gallu bod yn anwastad ac yn llithrig mewn mannau ac mae nifer fawr o risiau. O dan y ddaear, rhaid plygu mewn mannau i osgoi taro'ch pen.
- Bydd aelod o staff yn eich ffitio gyda helmed, lamp a gwregys cyn i chi fynd o dan y ddaear a fydd yn cynnwys rhywfaint o gyswllt agos. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am hyn, rhowch wybod i aelod o'r staff.
- Ar y daith dan ddaear, rhaid cerdded tua 700 metr yn gwisgo helmed ac yn cario lamp sy'n pwyo tua 5kg. Mae'r lamp yn addas at y pwrpas yn ôl yr HSE, ond cofiwch fod y golau ar y cyfan yn waeth nag yr ydych wedi arfer ag e. Mae'r teithiau danddaear yn para tua awr.
- Rydyn ni'n cynnal profion diogelwch yn rheolaidd i wneud yn siŵr bod y lofa yn ddiogel i ymwelwyr. Os bydd angen i ni stopio teithiau danddaear, efallai ar fyr rybudd, byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan a'r cyfryngau cymdeithasol.
Plant
- Rhaid i blant fod dros fetr o daldra i fynd ar y daith dan ddaear. Mae'r offer diogelwch yn pwyso tua 5kg, a rhaid i bob plentyn gario eu hoffer eu hunain. Ni fydd pob plentyn sy'n ddigon tal i fynd i lawr i'r pwll yn ddigon cryf i gario'r offer mor bell. Byddwn ni'n pwyso a mesur pob achos yn unigol ac rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod mynediad i'r daith dan ddaear.
- Mae profiad y pwll rhyngweithiol ar y wyneb yn agored i bobl o bob oedran.
- Mae nifer o beiriannau diwydiannol sy'n addas i blant eistedd ynddynt neu arnynt dan oruchwyliaeth oedolyn yma, ond mae dringo ar y peiriannau'n gallu bod yn beryglus. Hoffem atgoffa oedolion taw nhw sy'n gyfrifol am les a diogelwch y plant yn eu gofal drwy'r amser.
- Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
Contraband
- Er nad yw Big Pit yn cynhyrchu glo bellach, mae'n dal i gael ei gyfri fel pwll glo yn ôl y Ddeddf Pyllau Glo. Mae felly yn anghyfreithlon mynd â deunyddiau ysmygu neu sylweddau llosgadwy dan ddaear.
- Mae hyn yn cynnwys sigarennau, baco, matsys a thanwyr, ffonau symudol, oriorau a chylchoedd allweddi gyda batris, cyfrifianellau, radios, chwaraewyr cerddoriaeth personol ac unrhyw offer ffotograffig.
- Bydd ein Harweinwyr yn casglu'r 'contraband' yma cyn y daith danddaearol ac yn ei gadw'n ddiogel ar yr wyneb. Caiff ei ddychwelyd ar ddiwedd y daith.
Gwybodaeth Arall
- O leiaf 2 o bobl ar gyfer y daith dywysedig
- Ffoniwch 029 2057 3650 i holi a yw'r teithiau danddaear (10am-3pm) ar gael yn Rhagfyr, Ionawr ac yn gynnar fis Chwefror.
- Dylai grwpiau o dros ddeg o bobl fwcio ymlaen llaw.
- Dylai pobl mewn cadair olwyn fwcio teithiau danddaear ymlaen llaw.
Cefnogwch Ni
Mae Amgueddfa Cymru yn elusen. Bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth gennym, neu yn cyfrannu rhodd boed fawr neu fach, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rhowch os gallwch chi.
Darganfod atyniadau eraill yn yr ardal:
Dewch i ddarganfod stori Cymru