Uchafbwyntiau

Ffordd ar Gau

Noder bydd y ffordd o Abersychan i Flaenafon (cyffordd yr A4043 a'r B4246) ar gau ar ddydd Sul 13 Gorffennaf, 8am-10am.

Gwybodaeth i ymwelwyr

Y Daith Dan Ddaear:

Mae tocynnau ar gyfer y Daith Dan Ddaear ar gael i'w brynu ymlaen llaw gyda thocyn Job-A-Mas £8 sydd yn rhoi slot amser i bob person NEU, drwy brynu tocyn am £5 ar ddiwrnod eich ymweliad pan fyddwch yn cyrraedd yr Amgueddfa.*

Mae'r tocynnau sydd ar gael i'w prynu ar y diwrnod yn gyfyngedig o ran nifer, ddim yn gwarantu slot amser ac efallai bydd yn rhaid i chi aros am gyfnod, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur. 

Mae tocynnau ar gyfer y diwrnod ar gael bob dydd i'r rheiny sy’n cyrraedd heb docynnau Job-A-Mas ymlaen llaw ac maent yn amodol ar argaeledd.

Mae’n rhaid archebu tocynnau Job-A-Mas ymlaen llaw ac ni ellir eu prynu ar ddiwrnod eich ymweliad.

Mae mynediad i'r Amgueddfa yn parhau i fod yn rhad ac am ddim. 

Parcio £5.

*Mae gostyngiad agored ar gael ar gyfer tocynnau ar y diwrnod yn unig ac nid yw ar gael ar gyfer tocynnau Job-A-Mas.

Big Pit

Gwir Brofiad Dan Ddaear - Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Pwll glo go iawn yw Big Pit, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

Gyda chyfleusterau i addysgu a diddanu pobl o bob oedran, mae Big Pit yn cynnig diwrnod cyffrous ac addysgiadol i'r teulu cyfan.

Uchafbwyntiau

Mwynhewch daith aml-gyfrwng gyffrous o gwmpas pwll glo modern gyda rhith-löwr yn Orielau Glofaol, arddangosfeydd yn y Baddonau Pen Pwll ac Adeiladau lofa hanesyddol.

Orielau Glofaol   Baddonau Pen Pwll   Adeiladau lofa hanesyddol

Big Pit Amguedfa Lofaol Cymru

Hyn oll, a'r Taith dan ddaear fyd-enwog. Teithiwch 300tr lawr i grombil y ddaear gyda glöwr go iawn i weld sut beth oedd bywyd i'r miloedd o ddynion oedd yn gweithio yn y pyllau glo.

Taith dan ddaear
Arddangosfa

Lleolir yr Amgueddfa yn nhirwedd ddiwydiannol unigryw, a ddyfarnwyd yn Safle Treftadaeth Byd gan UNESCO ym 2000 i gydnabod pwysigrwydd ei chyfraniad rhyngwladol i'r broses ddiwydiannu trwy gynhyrchu haearn a glo. 

Mae gan Big Pit statws anchor point ar yr European Route of Industrial Heritage. Mae'r llwybr yn cynnwys 850 o safleoedd dros 32 o wledydd ac mae'n ffordd wych o ddysgu mwy am hanes diwydiannol amrywiol ar draws y cyfandir.

Mae Big Pit yn atgof byw o'r diwydiant glo yng Nghymru a'r bobl a'r gymdeithas a grëwyd yn ei sgil.

Ymweld yr Amgueddfa

Digwyddiadau yn Big Pit

Eich Ymweliad