Digwyddiadau Digidol

Digwyddiadau

Digwyddiad Digidol: Archwilio Hanes Digidol gydag Casgliad y Werin Cymru

Wedi'i Orffen
20 Hydref 2022, 10am - 11.30am
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedolion

Yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, mae Cymunedau Digidol Cymru yn eich gwahodd i sesiwn i’ch ysbrydoli a’ch annog i fanteisio mwy ar fod ar-lein, drwy archwilio hanes digidol. Mae’r sesiwn hon wedi’i datblygu mewn partneriaeth gyda Chasgliad y Werin ac Amgueddfa Cymru, ac fe fydd yn cael ei gyd-arwain gan Cymunedau Digidol Cymru a Chasgliad y Werin Cymru.

Oes ganddoch chi ddiddordeb darganfod mwy o wybodaeth am hanes eich miltir sgwar? Neu’n awyddus i ddysgu mwy am enwau hanesyddol Cymru?
Yn y sesiwn hon byddwn yn:
· Trafod pam ei fod yn bwysig i ddysgu am ein hanes a’i gofnodi.
· Rhoi cyflwyniad i wefan Casgliad y Werin Cymru
· Eich cyfeirio at wybodaeth ac offer chwilio ar gyfer adnabod hanes Cymru trwy bodlediadau, cyfryngau cymdeithasol a Google.

 

Bydd y sesiwn hon drwy gyfrwng y Saesneg gyda Chyfieithydd ar y pryd.

 

https://us06web.zoom.us/webinar/register/WN_Gdfd5KTdT0SiDKoYOloj3A

Digwyddiadau