Digwyddiadau Digidol

Digwyddiadau

Digwyddiad Digidol: Amgylchedd ac Ecoleg Cwiar

Wedi'i Orffen
23 Mai 2023, 6-7.30pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Ymunwch ag Izzy ac artistiaid, garddwyr, ysgolheigion ac amgylcheddwyr LHDTC+ eraill i'w clywed yn trafod eu gwaith, ecoleg cwiar, a'u cysylltiad â byd natur a'r hinsawdd fel pobl LHDTC+.

Ymysg y panelwyr bydd:

Alys Fowler

Garddwraig ac awdur cwiar yw Alys sy’n caru bwyta, ac felly mae’r rhan fwyaf o'i gwaith yn trafod bwyd. Ond mae bwyta’n awydd bydol, felly mae hi wedi ceisio tyfu gardd sy'n bwydo dynoliaeth, a mwy.  Mae wedi ysgrifennu i nifer o gyhoeddiadau, yn cynnwys The Guardian, NationalGeographic, Time Out, Gardens Illustrated, Caught By The River, ac mae wedi cyhoeddi wyth o lyfrau ar natur a garddio. Ar hyn o bryd, mae hi'n ysgrifennu llyfr am gorsydd. 

Kate Marston

Mae Kate Marston yn Ddarlithydd Addysg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Creu newid cymdeithasol a chyfiawnder o ran rhyw a rhywedd drwy addysg sy'n lliwio eu dysgu a'u hymchwil.

Jasmine Isa Qureshi

Mae Jasmine Isa Qureshi (nhw/hi) yn awdur, newyddiadurwr ac ymchwilydd. Bu'n gweithio i Wild Space Productions (ar gyfres i Netflix), Uned Hanes Natur y BBC / BBC Earth, a Sound Off Films. Mae Jasmine yn creu ffilmiau bywyd gwyllt, yn Llysgennad i'r Bumblebee Conservation Trust, yn Swyddog Ymgysylltu i'r sefydliad ieuenctid A Focus On Nature, yn ymgyrchydd, biolegydd morol, bardd a chyflwynydd.

 

Tocynnau

 

Bydd y digwyddiad hwn yn iaith gyntaf y cyflwynwyr, sef Saesneg.

Digwyddiadau