Digwyddiadau Digidol

Digwyddiad Digidol:Natur am Byth! Gweminar 4: Planhigion Prin yng Ngogledd Cymru

Ymunwch â'r curaduron hanes natur am weminar fyw, arbennig am rai o anifeiliaid a phlanhigion gwyllt mwyaf swil Cymru. 

Y tro hwn rydyn ni'n cyflwyno planhigion alpaidd prin sy'n byw mewn cynefinoedd unig yn uchel ym mynyddoedd Eryri. Maen nhw wedi goroesi yno ers i'r rhewlifoedd diwethaf gilio.  Bydd y sgwrs yn edrych ar y peryglon i oroesiad y rhywogaethau hyn, gan gynnwys newid hinsawdd a gormod o dwristiaid. Bydd y sgwrs hefyd yn edrych ar strategaethau rheoli tir i liniaru'r peryglon hyn fel rhan o broject Natur am Byth, er mwyn eu gwarchod nhw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dysgwch sut a ble allwn ni ganfod ac adnabod y rhywogaethau hyn, eu cyswllt â phobl, a beth sy'n cael ei wneud i'w harbed rhag marw allan. 
 

Mae'r weminar hon yn rhan o gyfres o brofiadau adnabod rhywogaethau ar-lein gan guraduron hanes natur Amgueddfa Cymru. ⁠Bydd ein curaduron yn defnyddio ffotograffau a fideos o'r Amgueddfa a chynefinoedd gwyllt i fynd â chi ar 'daith maes rithwir' er mwyn dangos beth sy'n unigryw am bob rhywogaeth, a'r gwaith i'w gwarchod.

Mae'r gyfres yn trafod detholiad o rywogaethau sydd wedi'u targedu gan Natur am Byth, partneriaeth adfer ledled Cymru sy'n uno naw sefydliad cadwraeth a Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Rydyn ni'n dangos rhywogaethau llai adnabyddus, ac anodd eu hadnabod, yn fwriadol. Mae cynyddu cysylltiad pobl â'r rhywogaethau hyn yn un o amcanion pwysig Natur am Byth, ac mae'r weminar yn agored i unrhywun sydd â diddordeb ym mywyd gwyllt Cymru. ⁠

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Natur am Byth wedi ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda chefnogaeth gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a noddwyr eraill sydd wedi'u rhestru ar wefan y rhaglen.

Dolen Gymraeg: Natur am Byth! Adfer Rhywogaethau dan fygythiad yng Nghymru - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)

Dolen Saesneg: Natur am Byth! Saving Wales' threatened species - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)

Mae recordiadau o weminarau blaenorol yn y gyfres (molysgiaid, pryfed a phlnahigion) ar gael yn: 

Gweminarau Natur am Byth | Amgueddfa Cymru

Gwybodaeth ychwanegol:

  • Bydd cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod y weminar.
  • Bydd y cyflwyniad hwn yn cael ei roi ym mamiaith y siaradwr, sef Saesneg. 
  • Bydd y weminar yn cael ei recordio, a bydd fersiwn wedi'i golygu yn ymddangos ar-lein yn ddiweddarach.

Mae'r digwyddiad hwn am ddim, ond mae pob rhodd, boed yn fawr neu yn fach, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. 

Gallwch chi roi drwy fynd i Ein cefnogi | Amgueddfa Cymru

Gwybodaeth

24 Tachwedd 2026, 6pm - 8pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Oedran a argymhellir: 15+
Archebu lle Ar werth yn fuan
Natur am Byth | Eicon collage
Natur am Byth

Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru

Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?

Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd

Digwyddiadau