Yr Ŵyl
Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Cynhelir yr Ŵyl Fwyd eleni ar 7-8 Medi 2024.
Ffefryn cadarn yng nghalendr bwyd Cymru, mae Sain Ffagan yn dod yn fyw gyda dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft yn nythu ymhlith yr adeiladau hanesyddol.
Mwynhewch wledd o weithgareddau bwyd sy'n addas i deuluoedd, arddangosiadau coginio, danteithion blasus a cherddoriaeth fyw gan rai o gynhyrchwyr gorau Cymru.
Cynhelir digwyddiadau i’r teulu mewn amryw leoliadau ar draws yr amgueddfa, o ddangosiadau coginio yn yr adeiladau hanesyddol i sesiynau sgiliau syrcas – bydd digon i gadw’r rhai bach yn brysur!
O pizza i tacos, toesenni i hufen iâ - bydd rhywbeth at ddant pawb! Bydd yna hefyd ddigon o opsiynau ar gyfer prydau llysieuol, fegan a bwydydd heb glwten.
Gadewch i ni wybod eich bod yn dod i'r digwyddiad ac ymunwch â’n rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf am yr Ŵyl Fwyd. Fel diolch, cewch 10% i ffwrdd yn siop yr Amgueddfa yn ystod penwythnos yr ŵyl.
Gadewch i ni wybod eich bod yn dod
Ydych chi'n bwriadu ymuno â ni am benwythnos o fwyd blasus, arddangosiadau a cherddoriaeth fyw ar 7 a 8 Medi?
Gadewch i ni wybod eich bod yn dod i'r digwyddiad ac ymunwch â’n rhestr bostio i gael y newyddion diweddaraf am yr Ŵyl Fwyd. Fel diolch, cewch 10% i ffwrdd yn siop yr Amgueddfa yn ystod penwythnos yr ŵyl!
Cefnogwch Ni
Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at benwythnos llawn bwyd, cerddoriaeth a hwyl i’r teulu oll!
Elusen ydyn ni, ac rydyn ni wrth ein bodd yn dod â chymunedau ynghyd, a bod yn lle i greu atgofion.
Os ydych chi’n teimlo’r un fath, cyfrannwch heddiw er mwyn cadw stori Cymru’n fyw i bawb ei mwynhau am ddim.
Mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr - diolch.