Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Gwybodaeth
13-14 Medi 2025
Yr Ŵyl
Oherwydd rhagolwg glaw trwm a gwyntoedd cryf, bydd Gŵyl Fwyd Sain Ffagan yn cau am 4pm ddydd Sul 14 Medi. Rydym yn cymryd y cam hwn i sicrhau diogelwch ein hymwelwyr, masnachwyr a staff.
Bydd gweithgareddau awyr agored yn cael eu canslo, gan gynnwys y gerddoriaeth fyw. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.
Mae Gŵyl Fwyd Sain Ffagan yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Cynhelir yr Ŵyl Fwyd eleni ar 13-14 Medi 2025.
Ffefryn cadarn yng nghalendr bwyd Cymru, mae Sain Ffagan yn dod yn fyw gyda dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft yn nythu ymhlith yr adeiladau hanesyddol.
Mwynhewch wledd o weithgareddau bwyd sy'n addas i deuluoedd, arddangosiadau coginio, danteithion blasus a cherddoriaeth fyw gan rai o gynhyrchwyr gorau Cymru. O pizza i tacos, toesenni i hufen iâ - bydd rhywbeth at ddant pawb! Bydd yna hefyd ddigon o opsiynau ar gyfer prydau llysieuol, fegan a bwydydd heb glwten.
Cynhelir digwyddiadau i’r teulu mewn amryw leoliadau ar draws yr amgueddfa, o ddangosiadau coginio yn yr adeiladau hanesyddol i sesiynau sgiliau syrcas – bydd digon i gadw’r rhai bach yn brysur!