Newyddion
Cynhelir ein gŵyl fwyd flynyddol yn ddigidol eleni!
Cynhelir ein gŵyl fwyd flynyddol yn ddigidol eleni! Mwynhewch ddau ddiwrnod o sgyrsiau, gweithdai, cerddoriaeth a sesiynau blasu o’ch cartref.
Ymunwch â ni ar 12 a 13 Medi am wledd o ddanteithion digidol.
Er nad oes modd i ni groesawu ymwelwyr i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru i fwynhau’r detholiad arferol o stondinau bwyd, rydym wedi datblygu bwydlen flasus o adloniant i chi fwynhau drwy’r penwythnos.
Dysgwch fwy am gasgliadau bwyd saith amgueddfa genedlaethol Amgueddfa Cymru. Dysgwch sut i wneud eich hoff goctels neu archebwch docyn i’r sesiwn bobi gyda One Mile Bakery. Bydd gweithgareddau i’r teulu cyfan, yn cynnwys sgiliau syrcas ac amser stori i’r rhai bach. Byddwn hefyd yn dod â pherfformiadau cerddoriaeth arbennig i chi, mewn partneriaeth â BBC Gorwelion a Tafwyl.
Beth bynnag yw’ch diddordebau, a ble bynnag yr ydych chi yng Nghymru, mae gennym ni rywbeth at ddant pawb.