Newyddion
Sesiwn Blasu Cwrw Cymreig
Mae Amgueddfa Cymru yn falch o gyhoeddi ein partneriaeth gyda Cywain, a chynnig profiad blasu cwrw Cymreig unigryw yn arbennig ar gyfer ein Gŵyl Fwyd Digidol!
Ymunwch â’r actorion ac yfwyr brwd Carwyn Glyn a Dafydd Rhys Evans i brofi detholiad o gwrw, medd a rym o rai o fragdai a distyllwyr annibynnol gorau Cymru.
Eisteddwch nôl a gadewch i ni fynd â chi ar wibdaith gwrw ar draws Cymru – heb adael eich soffa. Byddwch yn cwrdd â rhai o’r bragwyr, yn dysgu am y straeon a’r dulliau tu ôl i’r cynnyrch, ac yn cymharu nodiadau ar y cwrw. Mae 12 diod i’w profi i gyd, ac mae’r profiad rhithiol hwn yn cynnig rhywbeth i bawb – gallwch ei fwynhau gyda ffrindiau a theulu, neu ar eich pen eich hun.
Gallwch ymuno yn y blasu drwy archebu’r Bocs o Gwrw i’ch drws.
Bydd y sesiwn blasu yn cael ei ffrydio arlein am ddim, ac ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Nifer cyfyngedig o Focsys Cwrw sydd ar gael i’w harchebu.
Bydd rhaglen am ddim yr Ŵyl yn cael ei rhannu ar draws platfformau cyfryngau cymdeithasol Amgueddfa Cymru drwy gydol y penwythnos, ac fe fyddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion am hyn yn fuan…