Gwyl Fwyd Amgueddfa Cymru
9-10 Medi 2023

Newyddion

Gwyl Fwyd - Bao Selecta

Llwyfan i'r Cynhyrchwyr: Nick, Bao Selecta

7 Awst 2020

Rydym wedi gofyn wrth rhai o'r stondinwyr a fyddai wedi cymryd rhan yn y digwyddiad byw eleni i ateb ein cwestiynau busneslyd, fel y gallwn ddod i adnabod y wynebau a'r straeon tu cefn i'r busnesau bwyd a diod gwych yma o Gymru.

Y cwmni cyntaf o dan y chwyddwydr ydy Bao Selecta - a fyddai wedi cymryd rhan yn y digwyddiad am y tro cyntaf eleni...

1) Disgrifiwch eich cwmni mewn un frawddeg.
Rydyn ni’n gwerthu byns wedi eu stemio, a’u llwytho â chig porc wedi ei goginio’n araf neu “gig eidion” llysieuol.

2) Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau eich busnes bwyd?
Treuliais i 12 mlynedd yn gweithio mewn ceginau proffesiynol, ac ro’n i wastad yn meddwl y byddwn i’n hoffi dechrau fy musnes fy hun, ond doeddwn i ddim yn siwr pa fath o fwyd byddwn i’n ei weini. Yna, un penwythnos fe wnes i goginio byns gua bao ar gyfer parti, roedd pobl yn eu mwynhau yn fawr, ac felly dyna blanu’r hedyn; dwi wrth fy modd gyda byns gua bao ac felly roedd hi’n amlwg mai dyna y dylwn i ei wneud!
Ychydig o fisoedd yn ddiweddarach, fe wnes i a ’ngwraig rentu ein tŷ allan i’n ffrind er mwyn teithio dwyrain Asia am flwyddyn. Cefais fy ysbrydoli (a magu pwysau!) yn y marchnadoedd bwyd bywiog, yn enwedig yn Taiwan, maen nhw’n angerddol iawn am eu bwyd stryd yno!

3) Beth yw’r cyngor gorau rydych chi wedi ei dderbyn?
Perffeithrwydd ydy gwneud llawer o bethau bach yn dda iawn.

4) Sut ydych chi a’r busnes wedi gorfod addasu yn ystod y cyfnod yma?
Dechreuais i weithio’n llawn amser gyda Bao Selecta ym mis Tachwedd 2019. Pan ddaeth y clo mawr doeddwn i ddim yn gymwys i dderbyn cymorth ffyrlo ac fe gafodd ein digwyddiadau i gyd eu canslo. Felly fe ddechreuon ni wasanaeth coginio a chludo o’n cegin ar y penwythnosau. Rydyn ni wedi bod yn brysur iawn ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi ein cefnogi drwy archebu, rhannu, argymell a weithiau dod yn ôl i archebu dro ar ôl tro!

5) Pa gynhyrchwyr bwyd eraill sy’n eich cyffroi a’ch ysbrydoli?
Criw y Pink Peppercorn, maen nhw’n rhoi llawer o amser ac ymdrech i ddarganfod cynhwysion lleol ac yn ddiweddar wedi lansio cynllun Swper Box CIC sy’n brosiect diddorol iawn. Rydyn ni hefyd wedi dechrau dilyn Forage Farm ger y Bontfaen yn ddiweddar – maen nhw’n bwtsiera o’u fferm ar y safle, ac mae hi’n amlwg bod tarddiad a safon eu cynnyrch yn hollbwysig iddynt. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ymweld cyn hir!

6) Beth oedd eich hoff bryd o fwyd pan oeddech chi’n blentyn, ac ydy e wedi newid?
Doedd yna ddim llawer o ddewis o fwydydd stryd Asiaidd-Cymreig ar gael pan ges i fy magu yn ystod yr 80au, felly ro’n i’n mwynhau pethau fel wafflau tatws gydag ŵy wedi ei ffrio, ac yn ôl fy mam, ro’n i hefyd yn arbenigwr mewn cacennau rice krispies siocled o oedran ifanc iawn. Rydw i wedi dod yn fwy chwilfrydig wrth i mi fynd yn hŷn!

7) Rydych chi’n trefnu gwledd arbennig i westeion o’ch dewis chi. Pwy fyddech chi’n eu gwahodd?
Byddai’n rhaid i mi wahodd Rob Brydon, Sean Lock, Rik Mayall, Ruth Jones, Sasha Baron Cohen a Bob Mortimer. Byddwn i’n gallu eistedd yn ôl ac edmygu eu doniau comedïaidd! Byddai Craig Charles yn DJ, a Boy Azooga o Gaerdydd yn perfformio set acwstig braf allan yn yr ardd wrth i ni agor y potel port! Fe gaf i noson i ffwrdd o’r gegin gan adael fy hoff Brif Gogydd Daniel James (o’r Fenni) yn gyfrifol am y bwyd!

8) Beth ydych chi wedi ei goginio fwyaf yn ystod y cyfnod clo?
Gyozas!
Fis Mehefin, fe fues i allan yn casglu garlleg gwyllt o’r nant ger Tongwynlais, a’i gymysgu gyda chorgimwch (neu lysiau gwyrdd), bara lawr, chilli a sinsir, lapio’r gymysgedd gyda chroen gyoza, eu ffrio mewn padell a’u gweini gyda saws soi a sesame ac ychydig o sampier! Mae yna nifer o amrywiaethau o’r gyoza ac fe hoffwn i eu trio nhw i gyd!

http://baoselecta.co.uk/