7-8 Medi 2024

Newyddion

Llwyfan i'r Cynhyrchwyr: Richard a Jenny, Little Grandma's Kitchen

14 Awst 2020

Rydym wedi gofyn wrth rhai o'r stondinwyr a fyddai wedi cymryd rhan yn y digwyddiad byw eleni i ateb ein cwestiynau busneslyd, fel y gallwn ddod i adnabod y wynebau a'r straeon tu cefn i'r busnesau bwyd a diod gwych yma o Gymru.

Yr ail gwmni o dan y chwyddwydr ydy'r busnes teuluol o San Clêr, Little Grandma's Kitchen...

1) Disgrifiwch eich cwmni mewn un frawddeg.
Mae Little Grandma’s Kitchen yn ymrwymiedig i ddarparu siytni, marmalêd, cyrd a mwstard o’r radd flaenaf i’n cwsmeriaid, ac mae’r ryseitiau teuluol oll wedi eu paratoi yn ein cegin cartref 5*.

2) Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau eich busnes bwyd?
Fe wnaethon ni weini ein siytni ym mhriodas ein merch yn gyntaf. Roedd nifer o bobl yn gofyn i ni o ble ddaeth y cynnyrch er mwyn iddyn nhw allu ei brynu. Plannwyd yr hadyn o’r eiliad honno gan arwain at sefydlu Little Grandma’s Kitchen.

3) Beth yw’r cyngor gorau rydych chi wedi ei dderbyn?
Cadwch i ddatblygu eich ansawdd a’ch blasau unigryw.

4) Sut ydych chi a’r busnes wedi gorfod addasu yn ystod y cyfnod yma?
Gan nad oes yna unrhyw wyliau bwyd, sioeau neu farchnadoedd wedi eu cynnal dros y misoedd diwethaf rydym wedi gorfod canolbwyntio ar addasu a datblygu presenoldeb arlein, cynyddu ein busnes cyfanwerthol a gweithio mewn partneriaeth gyda busnesau lleol eraill i ddarparu gwasanaeth cludo i’r cartref yn ystod y cyfnod clo.

5) Pa gynhyrchwyr bwyd eraill sy’n eich cyffroi a’ch ysbrydoli?
Rhosyn Farm Foods.

6) Beth oedd eich hoff bryd o fwyd pan oeddech chi’n blentyn, ac ydy e wedi newid?
Selsig a thatws stwnsh ac ie, dyma yw’r ffefryn o hyd, gydag ychydig o fwstard yn y stwnsh erbyn hyn.

7) Rydych chi’n trefnu gwledd arbennig i westeion o’ch dewis chi. Pwy fyddech chi’n eu gwahodd?
Yr holl fusnesau bach sydd wedi ymuno â ni yn y cynllun i ddarparu gwasanaeth cludo i’r cartref dros y misoedd diwethaf.

8) Beth ydych chi wedi ei goginio fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

Rydym wedi mwynhau nifer o wahanol ryseitiau yn ddiweddar, a’r ffefrynnau ar hyn o bryd ydy chyrïau neu bryd pasta a chyw iâr mewn steil Eidalaidd, yn defnyddio ein Siytni Tomato.

https://littlegrandmaskitchen.co.uk/