7-8 Medi 2024

Newyddion

Marchnad Ddigidol

12 Awst 2020

Mae ymwelwyr â Gŵyl Fwyd Sain Ffagan wedi arfer gallu blasu a phrynu cynnyrch gan dros 90 o stondinau bwyd, diod a chrefft, sy'n nythu ymhlith yr adeiladau hanesyddol.

Er bod y digwyddiad yn un ar-lein eleni, mae dal digon o gyfleoedd i fwynhau bwydydd Cymreig blasus. Bydd yr Ŵyl Fwyd digidol yn parhau i ddathlu ac arddangos y gorau o gynnyrch Cymru, gyda phopeth ar gael i’w archebu ar-lein neu’n uniongyrchol drwy’r cynhyrchwyr.

Ymunwch â ni ar Facebook ar y dydd Sadwrn a dydd Sul i ymweld â’r FARCHNAD DDIGIDOL – ble gallwch bori o amgylch y stondinau amrywiol, sgwrsio gyda’r stondinwyr eu hunain, yn ogystal â manteisio ar gynigion arbennig!

Ymunwch: https://www.facebook.com/groups/291068358848494