7-8 Medi 2024

Newyddion

Llwyfan i'r Cynhyrchwyr: Nick a Joseph, Vale Cider

21 Awst 2020

Rydym wedi gofyn wrth rhai o'r stondinwyr a fyddai wedi cymryd rhan yn y digwyddiad byw eleni i ateb ein cwestiynau busneslyd, fel y gallwn ddod i adnabod y wynebau a'r straeon tu cefn i'r busnesau bwyd a diod gwych yma o Gymru.

Y trydydd cwmni o dan y chwyddwydr ydy Vale Cider, a fyddai fel arfer yn darparu arddangosiadau byw yn rhan o'r ŵyl ochr yn ochr â Gareth Beech ein Uwch Guradur: Economi Wledig...

1) Disgrifiwch eich cwmni mewn un frawddeg.
Rydyn ni’n deulu o Gynhyrchwyr seidr a sudd afal Arobryn, yn defnyddio afalau treftadaeth rydyn ni’n eu tyfu yn ein perllan ym Mro Morgannwg.

2) Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau eich busnes bwyd?
Hawdd – rydyn ni wrth ein boddau yn tyfu afalau ac yn gwneud seidr, ac roedden ni eisiau rhannu ein hangerdd am seidr Cymreig.

3) Beth yw’r cyngor gorau rydych chi wedi ei dderbyn?
Dysgwch o’ch camgymeriadau !

4) Sut ydych chi a’r busnes wedi gorfod addasu yn ystod y cyfnod yma?
Rydyn ni wedi gorfod rhoi llawer mwy o bwyslais ar ein gwasanaeth cludo neu gasglu yn hytrach na gwerthu’n uniongyrchol mewn marchnadoedd neu wyliau.

5) Pa gynhyrchwyr bwyd eraill sy’n eich cyffroi a’ch ysbrydoli?
Dwi’n meddwl bod criw The Parsnipship wedi gwneud gwaith arbennig wrth ddatblygu eu brand a’u cynnyrch.

6) Beth oedd eich hoff bryd o fwyd pan oeddech chi’n blentyn, ac ydy e wedi newid?
Cinio Nadolig – twrci rhost gyda’r trimins i gyd.

7) Rydych chi’n trefnu gwledd arbennig i westeion o’ch dewis chi. Pwy fyddech chi’n eu gwahodd?
Alun Wyn Jones, Rob Brydon, Sandi Toksvig, Mary Berry, Barack Obama a Jancis Robinson.

8) Beth ydych chi wedi ei goginio fwyaf yn ystod y cyfnod clo?

Yn ystod y tywydd poeth diweddar, mae’n rhaid i fi ddweud Salad Gwerinwr gyda ein letys, tomato, ciwcymber, winwns, siytni afal, bara cartref a cwlffyn o gaws Caerffili – wedi ei weini, wrth gwrs, gyda gwydraid oer o’n seidr a sleisen o gacen seidr fel pwdin.

https://valecider.co.uk/