Gwyl Fwyd Amgueddfa Cymru
7-8 Medi 2024

Newyddion

Food Festival - Little Black Hen

Llwyfan i'r Cynhyrchwyr: Alison, Little Black Hen

28 Awst 2020

Rydym wedi gofyn wrth rhai o'r stondinwyr a fyddai wedi cymryd rhan yn y digwyddiad byw eleni i ateb ein cwestiynau busneslyd, fel y gallwn ddod i adnabod y wynebau a'r straeon tu cefn i'r busnesau bwyd a diod gwych yma o Gymru.

Y cwmni nesaf o dan y chwyddwydr ydy Little Black Hen, busnes sy'n cael ei redeg o'r cartref yn Llengennech...

1) Disgrifiwch eich cwmni mewn un frawddeg.
Rydw i’n cynhyrchu jam, ceuled, catwad, finegr ffrwythau a nwyddau eraill gan ddefnyddio cynhwysion mor lleol â phosib, ac yn ymhyfrydu mewn gwneud jam yn y dulliau traddodiadol a ddysgwyd i mi gan fy nain.

2) Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau eich busnes bwyd?
Dechreuais y busnes yn gwneud cacennau, wrth i mi ailddarganfod fy niléit am bobi, gan ddefnyddio wyau o ieir sydd gyda ni’n byw yn yr ardd. Doeddwn i’n methu â dod o hyd i jam digon safonol i'w roi yn y cacennau, felly dechreuais i gynhyrchu rhai fy hun cyn symud ymlaen i wneud catwad. Tyfodd y busnes yn gwbl annisgwyl i ddweud y gwir - wrth i mi dderbyn mwy o geisiadau am gacennau gan bobl nad oeddwn i’n eu hadnabod, fe wnes i gofrestru’r gegin a sefydlu’r busnes yn swyddogol. Dechreuais i fynychu marchnadoedd lleol yn fuan wedi hynny a dwi erbyn hyn yn rhannu fy amser rhwng pobi cacennau a chynhyrchu jam, finegr, catwad a cheuled. Mae’r busnes wedi ei enwi ar ôl ein hiâr gyntaf un - Little Black Hen.

3) Beth yw’r cyngor gorau rydych chi wedi ei dderbyn?
Y cyngor gorau oedd i aros yn driw i ni ein hunain, i beidio addo mwy na fydden ni’n gallu ei ddarparu, ac i beidio cyfaddawdu ar safon y cynnyrch rydyn ni’n eu cynhyrchu.

4) Sut ydych chi a’r busnes wedi gorfod addasu yn ystod y cyfnod yma?
Ro’n i wedi bwriadu dechrau siop ar-lein ers blynyddoedd, ac angen pandemig byd eang i ffocysu’r meddwl. Mae gyda ni gwsmeriaid gwych a ffyddlon iawn sydd wedi ein cefnogi dros y blynyddoedd, ac wedi parhau i wneud hynny yn ystod yr argyfwng presennol, gan brynu ein nwyddau trwy ein siop ar-lein.

5) Pa gynhyrchwyr bwyd eraill sy’n eich cyffroi a’ch ysbrydoli?
Mae hwn yn anodd iawn i’w ateb gan fod yna cymaint o bobl sydd yn fy ysbrydoli. Rydyn ni’n dod ar draws cymaint o gynhyrchwyr bwyd a diod wych o Gymru ym mhob marchnad neu ddigwyddiad rydyn ni’n eu mynychu. Mae nifer ohonynt, fel fi, yn rhedeg eu busnes o adref. Rydw i wrth fy modd yn gweld yr amrywiaeth o gynnyrch sydd ar gael a chlywed y straeon tu nôl i bob un o’r busnesau. Mae brwdfrydedd pob un o’r cynhyrchwyr yma’n fy nghyffroi, a safon y cynnyrch yn ardderchog. Rydw i wrth fy modd yn dod â rhywbeth newydd adref i’w flasu.

6) Beth oedd eich hoff bryd o fwyd pan oeddech chi’n blentyn, ac ydy e wedi newid?
Dwi’n gwybod bod hwn yn ystrydebol iawn ond fy ffefryn heb os oedd Cinio Dydd Sul fy Mam, a dydy e heb newid.

7) Rydych chi’n trefnu gwledd arbennig i westeion o’ch dewis chi. Pwy fyddech chi’n eu gwahodd?
Dwi’n meddwl bod disgwyl i mi enwi rhywun enwog ond i ddweud y gwir dwi wir wedi gweld eisiau fy nheulu a'm ffrindiau yn ystod y cyfnod rhyfedd yma, yn enwedig gan ein bod yn byw cymaint ar wasgar. Does dim teimlad gwell na eistedd i lawr gyda theulu a ffrindiau agos, gyda bwyd da, gwin da a sgwrs hwyliog.

8) Beth ydych chi wedi ei goginio fwyaf yn ystod y cyfnod clo?
Efallai bod disgwyl i mi sôn am fy nghynnyrch fy hun yma eto, ond y peth gorau dwi wedi dod ar ei draws yn ystod y cyfnod clo ydy rysáit ice magic. Hynny ydy, yr hylif siocled rydych chi’n ei arllwys dros hufen iâ, sydd wedyn yn caledu a hollti. Wrth i bobl eraill droi at y pethau cysurus yn ystod y cyfnod ansicr yma, ro’n i wrth fy modd gyda’r rysáit yma oedd yn codi gwên!

https://www.littleblackhen.com/