7-8 Medi 2024

Newyddion

Cyhoeddi'r Rhaglen Gerddoriaeth

27 Awst 2020

Mae Amgueddfa Cymru yn falch i gydweithio eto â BBC Gorwelion a Tafwyl i ddod â cherddoriaeth fyw i’ch ystafell fyw!

Bydd rhaglen gerddorol yr Ŵyl Fwyd Digidol yn rhoi llwyfan i rai o dalentau cerddorol ifanc gorau Cymru, a bydd y perfformiadau yn cael eu ffrydio ar ddydd Sadwrn 12 Medi trwy Dudalen y Digwyddiad ar Facebook.

Yn perfformio yn yr Ŵyl Fwyd Digidol eleni:
Mari Mathias | Eädyth | Juice Menace | Dionne Bennett | Otto | MRPHY | Mared Williams | Yr Eira