Newyddion
Llwyfan i'r Cynhyrchwyr: Cathy a Pete, Case for Cooking
Rydym wedi gofyn wrth rhai o'r stondinwyr a fyddai wedi cymryd rhan yn y digwyddiad byw eleni i ateb ein cwestiynau busneslyd, fel y gallwn ddod i adnabod y wynebau a'r straeon tu cefn i'r busnesau bwyd a diod gwych yma o Gymru.
Y cwmni nesaf o dan y chwyddwydr ydy Case for Cooking, gŵr a gwraig o Gaerfyrddin...
1) Disgrifiwch eich cwmni mewn un frawddeg.
Gŵr a gwraig sydd ar orchwyl i ddangos bod llawer mwy i sbeisys na chyris tanllyd!
2) Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau eich busnes bwyd?
Rydyn ni’n dau wastad wedi mwynhau coginio a bwyd cartref. Rydyn ni’n gwybod bod ’na lawer o gyfuniadau sbeisys parod ar gael (rydyn ni siwr o fod wedi blasu’r rhan fwyaf!) ond ro’n ni eisiau rhoi ein stamp ein hunain ar y cynnyrch.
3) Beth yw’r cyngor gorau rydych chi wedi ei dderbyn?
Mae’n anodd i ddewis un ond dyma enghraifft sydd wedi ei binio ar yr hysbysfwrdd yn ein swyddfa cartref ers i ni ddechrau’r busnes: ‘Mae cario rhestr o bawb sy’n meddwl nad ydych chi’n ddigon da yn fwrn’. Geiriau doeth iawn.
4) Sut ydych chi a’r busnes wedi gorfod addasu yn ystod y cyfnod yma?
Gan nad oes gyda ni unrhyw ddigwyddiadau i fynychu, rydym wedi bod yn treulio llawer o amser yn tyfu ein presenoldeb arlein, yn datblygu cynnyrch newydd ac addasu’r pecynnau fel bod mwy o’n cynnyrch yn ffitio drwy’r blwch post!
5) Pa gynhyrchwyr bwyd eraill sy’n eich cyffroi a’ch ysbrydoli?
Mae llawer i ddewis ohonynt ond rydyn ni wastad yn gyffrous pan fydd Hay Charcuterie, Sorai, Myrddin Heritage a Twirly Bakes yn mynychu’r un digwyddiadau â ni.
6) Beth oedd eich hoff bryd o fwyd pan oeddech chi’n blentyn, ac ydy e wedi newid?
I un ohonom ni; spam, chips a bîns, a’r llall; toddion ar dost gyda fy mamgu, felly do, mae pethau bendant wedi newid!!
7) Rydych chi’n trefnu gwledd arbennig i westeion o’ch dewis chi. Pwy fyddech chi’n eu gwahodd?
Dim ond teulu a ffrindiau ar hyn o bryd. Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wir wedi gweld eisiau dod at ein gilydd gydag eineidiau hoff gytûn i rannu bwyd blasus a llymaid i’w yfed.
8) Beth ydych chi wedi ei goginio fwyaf yn ystod y cyfnod clo?
Nid yw hwn yn gofyn am llawer o sgiliau coginio o reidrwydd, ond fe gafon ni lawer o gnydau salad yn tyfu yn yr ardd yn ystod y tywydd braf ar ddechrau’r cyfnod clo, felly rydyn ni wedi bod yn bwyta ein dail gwyrdd ac arbrofi gyda nifer o dresins cartref.