Newyddion
Llwyfan i'r Cynhyrchwyr: Irena, A Bit of a Pickle
Rydym wedi gofyn wrth rhai o'r stondinwyr a fyddai wedi cymryd rhan yn y digwyddiad byw eleni i ateb ein cwestiynau busneslyd, fel y gallwn ddod i adnabod y wynebau a'r straeon tu cefn i'r busnesau bwyd a diod gwych yma o Gymru.
Y cwmni nesaf o dan y chwyddwydr ydy A Bit of a Pickle, busnes teuluol o Benarth...
1) Disgrifiwch eich cwmni mewn un frawddeg.
Rydym yn gwneud cyffeithiau cartref traddodiadol gyda chynhwysion sydd wedi eu tyfu adref ble’n bosibl – #gwnaedyngnghymru
2) Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau eich busnes bwyd?
Gan fy mod i’n dod o deulu o gogyddion, rydw i wastad wedi mwynhau coginio. Dechreuon ni wneud cynnyrch i’w roi fel anrhegion Nadolig i’n teulu a’n ffrindiau. Fe wnaeth pawb eu mwynhau yn fawr a’m annog i ddechrau busnes. Mae’r gweddill yn hanes!
3) Beth yw’r cyngor gorau rydych chi wedi ei dderbyn?
Y cyngor gorau? Mae gen i 2 mewn gwirionedd. Y cyntaf yw “i fod yn driw i chi eich hun” a’r ail ydy i “fwynhau beth rydych yn ei wneud”.
4) Sut ydych chi a’r busnes wedi gorfod addasu yn ystod y cyfnod yma?
Roedd ein gwefan wedi ei sefydlu yn barod a’r rhan fwyaf o’n busnes yn dod trwy ein ffynonellau ar-lein. Ond fe wnaethon ni gymryd rhan yng Ngŵyl Chilli Arlein cyntaf y byd, gan ffrydio ein stondin yn fyw o’n gardd. Am gyffrous! Rydyn ni hefyd wedi cymryd rhan mewn amryw o ffeiriau crefft arlein ac wedi bod yn cynnig gwasanaeth cludo am ddim yn lleol.
5) Pa gynhyrchwyr bwyd eraill sy’n eich cyffroi a’ch ysbrydoli?
Mae yna cymaint o gynhyrchwyr gwych allan yno, dydyn ni ddim yn teimlo y gallwn ni ddewis un yn benodol.
6) Beth oedd eich hoff bryd o fwyd pan oeddech chi’n blentyn, ac ydy e wedi newid?
Fy hoff bryd o fwyd? Fy ffefryn ers erioed ydy cinio rhost Mam gyda golwyth porc, pentyrrau o lysiau ffres a thatws rhost wedi eu coginio’n grimp!
7) Rydych chi’n trefnu gwledd arbennig i westeion o’ch dewis chi. Pwy fyddech chi’n eu gwahodd?
Byddwn i’n gwahodd fy nhadcu o ochr fy nhad. Byddwn i’n gofyn y cwestiynau na wnes i erioed eu holi am ei gyfnod yn byw yng Ngwlad Pwyl, ei brofiadau yn y fyddin a’r rhesymau pam y penderfynodd setlo yn y DU yn hytrach na dychwelyd adref wedi’r Ail Ryfel Byd.
8) Beth ydych chi wedi ei goginio fwyaf yn ystod y cyfnod clo?
Caws lleol gyda cracers, a llwyth o fy nghatwad fy hun! Neu pob math o sawsiau chilli crefft.