Gwyl Fwyd Amgueddfa Cymru
9-10 Medi 2023

Newyddion

Gwyl Fwyd - Field Bar Gin

Llwyfan i'r Cynhyrchwyr: Alice, Field Bar Gin

10 Medi 2020

Rydym wedi gofyn wrth rhai o'r stondinwyr a fyddai wedi cymryd rhan yn y digwyddiad byw eleni i ateb ein cwestiynau busneslyd, fel y gallwn ddod i adnabod y wynebau a'r straeon tu cefn i'r busnesau bwyd a diod gwych yma o Gymru.

Y cwmni nesaf o dan y chwyddwydr ydy’r cynhyrchwyr gin o Gaerdydd, Field Bar Gin…

1) Disgrifiwch eich cwmni mewn un frawddeg.
Mae Field Bar Gin yn cynhyrchu gwirodydd Gin arbenigol trwy ei fwydo gyda ffrwythau a blodau – o flasau botanegol clasurol i gyfuniadau newydd cyffrous.

2) Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau eich busnes bwyd?
Ar ôl 10 mlynedd o weithio yn y maes TGCh, ro’n i eisiau newid fy mywyd…fy mreuddwyd yn wreiddiol oedd i wneud bywoliaeth yn cynhyrch gwin ond gan nad oeddwn i’n gallu gweld swydd fel yna’n cael ei hysbysebu, penderfynais i sefydlu’r busnes a chynnig swydd i fi fy hun. Rydym wedi datblygu erbyn hyn i gynhyrchu gwirodydd Gin a Rum…rydw i’n byw fy mreuddwyd.

3) Beth yw’r cyngor gorau rydych chi wedi ei dderbyn?
Er mwyn cynhyrchu pethau gwych mae’n rhaid bod wrth eich bodd gyda’ch gwaith…rydyn ni’n treulio llawer o’n bywydau yn gweithio, felly mae’n rhaid i ni wneud y mwyaf o’r amser hynny.

4) Sut ydych chi a’r busnes wedi gorfod addasu yn ystod y cyfnod yma?
Roedd yn rhaid i ni gael popeth arlein yn gyflym iawn, a lansio ein siop arlein… Rydyn ni’n lwcus iawn bod gennym ni gwsmeriaid cefnogol a ffyddlon wnaeth ein cadw ni i fynd yn ystod yr wythnosau cyntaf, tywyll. Rydyn ni’n defnyddio’n hamser nawr i ddatblygu cynnyrch newydd a pharatoi stoc ar gyfer y Nadolig. Mae rhai marchnadoedd wedi ailagor bellach, felly rydym yn dechrau gweld pobl yn mentro allan eto i gefnogi eu cynhyrchwyr lleol (er o bell!).

5) Pa gynhyrchwyr bwyd eraill sy’n eich cyffroi a’ch ysbrydoli?
Wrth edrych ar y sîn ehangach, dwi’n dilyn Nigel Slater, Nigella, Hugh Fernley Whittingstall… Dwi wrth fy modd gyda’r pwyslais maen nhw’n ei roi ar ddefnyddio cynnyrch yn eu tymor a phwysigrwydd blas. Yn fwy lleol, dwi wastad yn cael fy ysbrydoli gan fusnesau bwyd eraill yn fy ardal fel Dusty Knuckle, a Pettigrew.

6) Beth oedd eich hoff bryd o fwyd pan oeddech chi’n blentyn, ac ydy e wedi newid?
Fel plentyn, roedd fy hoff fwydydd i gyd yn beige. Erbyn hyn, dwi dal wrth fy modd gyda phrydau beige o dro i dro, ond dwi yn arbennig yn hoffi bwyd Indiaidd. Unrhyw beth ag ychydig o sbeis. A bwyd Groegaidd – mae Mr Field Bar yn gwneud mousakka anhygoel.

7) Rydych chi’n trefnu gwledd arbennig i westeion o’ch dewis chi. Pwy fyddech chi’n eu gwahodd
a. Steven Spielberg
b. Harrison Ford
c. Jeff Goldblum
ch. Superman - Henry Cavil
d. Phoebe Waller Bridge
dd. Daisy may Cooper

8) Beth ydych chi wedi ei goginio fwyaf yn ystod y cyfnod clo?
Dwi wedi dysgu sut i wneud Pretzels meddal! Roedd e’n gret; mae’r cynhwysion yn rhad ac roedd y plant wrth eu boddau. Rydyn ni wedi gwneud rhai sawrus, rhai gyda sinamon a siocled hefyd. Mae LLAWER o wahanol fathau gallwch chi eu trio. Dilynon ni rysait gan Michael Roux Jr.

www.fieldbargin.com