Gŵyl Fwyd Sain Ffagan - Newyddion Diweddaraf
12-13 Medi 2026
Rydym yn ymwybodol bod 'na negeseuon yn ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn hysbysebu stondinau masnachol mewn digwyddiadau yn Sain Ffagan. Fe fydd unrhyw wybodaeth am gyfleoedd masnachol yn dod yn uniongyrchol o dudalennau swyddogol yr Amgueddfa. Os ydych yn dod ar draws un o’r negeseuon yma fe ofynnwn yn garedig i chi ei hadrodd yn syth i Meta.
Newyddion
Cerddoriaeth byw
6 Medi 2022
Bydd llu o gerddorion talentog yn perfformio yng Ngŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru, fydd yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 10 ac 11 Medi.
Bydd cerddoriaeth fyw ar ddau lwyfan gan lu o dalentau Cymru wedi'u curadu mewn partneriaeth â Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru, Gorwelion BBC a Tafwyl. Ymhlith y perfformwyr ar Lawnt Gwalia bydd Codewalkers, Hyll, Lily Beau, Parisa Fouladi, DJs Gorwelion, DJs PYST yn dy GLUST a llawer mwy!
Ar lwyfan Cynhyrchwyr Amgueddfa Cymru yn Llys Llywelyn, gall ymwelwyr fwynhau perfformiadau gan Banshi, Hana Lili, Craven, Small Miracles a mwy.
Dyma’r rhestr o’r holl artistiaid a fydd yn perfformio ar Lawnt Gwalia a Llys Llywelyn.