7-8 Medi 2024

Newyddion

Sylw i'r cynhyrchwyr - Green Beans Coffee Bike

11 Awst 2023

1. Disgrifiwch eich cwmni mewn un frawddeg.
Mae Green Beans Coffee Bike yn fusnes lleol symudol, cynaliadwy sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n gweini danteithion melys fegan a heb glwten ffres wedi’u gwneud â llaw, yn ogystal â choffi organig anhygoel wedi’i rostio’n lleol!


2. Beth ydych chi’n angerddol amdano yn eich busnes? Beth sy’n eich ysgogi chi?
Dwi bob amser yn teimlo'n hapus pan fydda i'n gweld cwsmer â chyfyngiadau dietegol yn sylweddoli ein bod yn gweini rhywbeth y gallant ei fwyta! Dyna'r rheswm pam y dechreuais y busnes hwn, roeddwn i eisiau i bawb ddod o hyd i rywbeth y gallant ei fwyta pan fyddant allan, waeth pa alergeddau neu gyfyngiadau dietegol sydd ganddynt, a heb gyfaddawdu erioed ar ansawdd na blas. Mae cael pobl yn dod yn ôl i roi adborth cadarnhaol i ni ar ôl iddynt brynu rhywbeth o'r beic coffi bob amser yn gwneud fy niwrnod, ac mae'n fy ysgogi i barhau pan fyddaf yn cael diwrnod anodd.


3. Beth yw’r cyngor gorau rydych chi wedi ei dderbyn?
Peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar wahanol ffyrdd o wneud busnes nes i chi ddod o hyd i'r ffordd sy'n gweithio orau i chi. Rydym yn dal yn fusnes newydd iawn, ac wedi cael llawer o ddiwrnodau heriol pan rydym wedi gwneud colled, ond hefyd rhai syrpreisys neis wrth arlwyo mewn digwyddiadau lle rydym wedi bod yn llawer prysurach nag yr oeddem wedi disgwyl!


4. Ydych chi’n gweld unrhyw dueddiadau newydd yn dod i'r amlwg yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru?
Dwi’n eithaf newydd i'r diwydiant hwn, ond mae’n ymddangos i mi fod cynhyrchwyr Cymreig i gyd wirioneddol yn poeni am ddilysrwydd ac ansawdd eu cynnyrch. Dwi wedi dod ar draws rhai busnesau a wnaeth fy synnu’n fawr; megis rhywun yn tyfu codlysiau fel ffacbys a chorbys yng ngorllewin Cymru, a busnes hynod ddiddorol arall yn mynd o wneud hufen iâ o’r ffrwythau ar eu fferm i gynhyrchu te cartref ym Mro Morgannwg sydd bellach ar werth yn Harrods!

 

5. Pa gynhyrchwyr bwyd a diod eraill o Gymru sy’n eich cyffroi a’ch ysbrydoli ar hyn o bryd?
Pobl fel y rhai rydw i newydd eu crybwyll uchod, ond hefyd cymaint o gynhyrchwyr bach, lleol eraill sydd yn aml yn fusnesau teuluol bach neu’n cael eu rhedeg gan unigolion. Mae'r rhain yn wirioneddol arloesol ac yn gweithio mor galed i greu cynnyrch arbenigol a gwneud bywoliaeth ohono.


6. Pe bai’n rhaid i chi fwyta un math o fwyd yn unig am weddill eich oes, beth fyddech chi’n ei ddewis?
Mae hwn yn gwestiwn anodd... dwi'n hoff iawn o flasau'r Dwyrain Canol/Asiaidd a dwi bob amser yn chwennych salad, felly powlen Bwdha mae'n debyg. Dwi byth yn blino arnyn nhw.


7. Rydych chi’n trefnu gwledd arbennig i westeion o’ch dewis chi. Pwy fyddech chi’n eu gwahodd?
Dwi’n dychmygu y gallai gwahodd cymysgedd o sêr roc fel Mick Jagger, ACDC a Tina Turner a rhai o aelodau fy nheulu fod yn hwyl! Gallaf ddychmygu byddai’r swper yn troi'n barti mawr, er byddwn i'n siŵr o adael y parti cyn y diwedd i fynd i'r gwely!


8. Sut gall pobl ddarganfod mwy am eich busnes a’ch cynnyrch?
Mae gen i wefan www.immunobox.co.uk sy'n esbonio ychydig mwy am fy musnes, a sut cafodd Green Beans Coffee Bike ei sefydlu er mwyn rhoi platfform i mi werthu fy nghynnyrch yn lleol. Rwyf hefyd ar Facebook ac Instagram, fel ImunoBoxUK a GreenBeansCoffeeBike.