Nadolig yn Amgueddfa Cymru
Mae digonedd i’w ddarganfod y Nadolig hwn yn Amgueddfa Cymru. Ymunwch â ni am Nadolig traddodiadol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amser Stori gyda Siôn Corn yn Big Pit, gweithdai crefft yn nifer o’n safleoedd, marchnadoedd Nadolig, a llawer mwy!
Porwch trwy ein rhaglen lawn a chlicio ar weithgaredd i weld sut i archebu tocyn.
P'un a ydych chi wedi dod o hyd i'r anrheg berffaith yn ein siop anrhegion, wedi archebu digwyddiad Nadolig Amgueddfa Cymru, neu wedi mwynhau minspei yn un o'n caffis, mae pob pryniant a wnewch y Nadolig hwn yn helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn eiddo i bawb ac yma i bawb ei defnyddio.
Mae ffyrdd eraill o ddathlu’r Nadolig gyda ni hefyd, gan gynnwys syniadau am anrhegion; straeon am draddodiadau Cymreig ac archif o’n casgliadau a ryseitiau Nadoligaidd.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Amgueddfa Wlan Cymru
Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Amgueddfa Lechi Cymru
Mae'r Amgueddfa Lechi Cymru yn mynd i gael ei gweddnewid, o ganlyniad bydd drysau'r Amgueddfa ar gau dros gyfnod y Nadolig. Hoffech chi wybod mwy am y prosiect? Mae modd gwneud hynny yma.