Digwyddiad:Wyn Bach
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Wlân Cymru yn ein grŵp tymhorol i blant o dan 5 oed.
Dewch i ddarganfod a chwarae gyda chrefftau, caneuon Cymraeg ac amser stori, dyma ffordd hwyliog i ddysgu a chwarae gyda’ch plentyn. Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael.
6 Hydref: Dathlu Hydref- Ymunwch â'r storïwr Lowri Sion am straeon a chrefft!
1 Rhagfyr: Dathlu Nadolig
Mewn partneriaeth â Menter Gorllewin Sir Gâr
Gwybodaeth
Tocynnau
| Dyddiad | Amseroedd ar gael | |
|---|---|---|
| 6 Hydref 2026 | 10:30 | Gweld Tocynnau |
| 1 Rhagfyr 2026 | 10:30 | Gweld Tocynnau |
Ymweld
Oriau Agor
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae ein caffi bellach yn gweini dewis o ddiodydd poeth ac oer, cacennau a sawrïau blasus. Nodwch os gwelwch yn dda bydd caffi’r amgueddfa yn cau am 4yp.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, tra nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa, mae meinciau o amgylch y safle sy’n fan braf.
Lleoliad
Map safle
Lawrlwythwch map o’r safleParcio
Nodwch y bydd gatiau'r maes parcio yn cael eu cloi am 5yp. Felly os yw eich cerbyd yn dal yn y maes parcio ar ôl 5yp, gobeithio eich bod chi wedi dod â sach gysgu!
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd