Dechrau oer i'r ymchwiliad eleni!
5 Tachwedd 2012
,Heddiw, mae disgyblion ar draws y DU wedi dechrau cadw cofnodion tywydd ar gyfer yr ymchwiliad Bylbiau Gwanwyn i Ysgolion. Hyd at ddiwedd mis Mawrth byddant yn cofnodi'r tymheredd a faint o law sy’n cwympo fel rhan o'r ymchwiliad hinsawdd hwn.
Dim ond pum radd yn fy ngardd yng Nghaerdydd y bore mha. Flwyddyn ddiwethaf, roedd y tymheredd cyfartalog ar gyfer mis Tachwedd yn naw rhad Celsius. Rhannau o’r DU wedi cael eira heddiw, ac maent bellach mewn perygl o lifogydd pan fydd yr eira yn toddi! Gweler: http://www.guardian.co.uk/uk/2012/nov/05/flood-warnings-weekend-rain-snow
Gadewch i mi wybod os ydych yn cael unrhyw eira!
Edrychaf ymlaen at weld y cofnodion tywydd yn dod i mewn ar ddydd Gwener. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofnodi - cysylltwch â mi.
Diolch yn fawr!
Athro'r Ardd.