: Spring Bulbs

Eich cwestiynau a'ch sylwadau

Danielle Cowell, 25 Tachwedd 2010

Dyma rai o’ch cwestiynau a’ch sylwadau.

Dyma rai cwestiynau da iawn gan wyddonwyr clyfar iawn! Mae llawer mwy o sylwadau gan ysgolion isod hefyd.

Gofynnodd Ysgol Gynradd Oakfield: 'Beth yw taldra’r genhinen bedr dalaf i gael ei chofnodi yn yr arbrawf hwn?' Yn ysgol Sant Dunawd y cofnodwyd y talaf ar 15/4/2010. Roedd yn 80cm o uchder!

Gofynnodd Ysgol Nant y Coed: 'A yw’r canlyniadau yn debyg i’r canlyniadau ar yr un amser y llynedd?' Cwestiwn da iawn. Dwi wedi ateb y cwestiwn yn lleol ar gyfer Nant y Coed, ar gyfer Cymru ac wedi edrych ar batrymau tymor hir.

Yn lleol yn ysgol Nant y Coed: Ar gyfartaledd roedd llai o law ym mhythefnos gyntaf mis Tachwedd ac roedd yn gynhesach nag yn 2009.

Glawiad: 2009 – 20.9mm. 2010 – 14.6mm.

Tymheredd: 2009 – 7.7°C. 2010 – 14°C.  

Oedd y patrymau'r un peth yn eich ysgol chi?

Canlyniadau astudiaeth 2010: www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/2968/

Canlyniadau astudiaeth 2009: www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/2952/

Yng Nghymru: Roedd mis Hydref eleni ychydig yn oerach na’r llynedd a chafwyd yr un faint o lawiad ag yn 2009.

Cymedr tymheredd yn 2009 oedd 11°C a 9.8°C yn 2010.   

Cymedr glawiad yn 2009 oedd 128.3mm a 123.8mm yn 2010.

Edrych ar y patrymau tymor hir: Roedd y cyfartaledd misol ar gyfer mis Hydref rhwng 1971-2000 yn 6.5°C. Mae’r ddau Hydref diwethaf wedi bod dipyn yn gynhesach mewn cymhariaeth.

Gweler: http://www.metoffice.gov.uk/climate/uk/averages/19712000/areal/wales.html  

Oes unrhyw ysgolion wedi gweld eira eto? Os ydych chi, gadewch i mi wybod.

Diolch yn fawr. Athro’r Ardd.

Palu yn y pridd

Danielle Cowell, 28 Hydref 2010

Ar dydd Mercher 20 Hydref cafod miloedd o blant hwyl yn palu yn y pridd fel rhan o broject Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – ymchwil newid hinsawdd.

Roedd nifer yn edrych ymlaen i blannu’r bylbiau bach y byddant yn gofalu amdanynt tan y gwanwyn nesaf. Yr wythnos nesaf bydd yr ysgolion yn dechrau casglu cofnodion tywydd a chwblhau sialensiau Athro’r Ardd er mwyn ennill eu Tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych.

Mae’r project yma yn gyfle gwych i ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, ond mae hefyd yn fodd i Amgueddfa Cymru rannu gwybodaeth ac adnoddau  gwyddonol gydag ysgolion ledled Cymru.

Yr ystadegau...

Mae 5.4% o ysgolion cynradd Cymru yn cymryd rhan eleni, 2,681 o ddisgyblion mewn 71 ysgol ar drws Cymru.

Mae 60% o’r ysgolion dros 30 milltir o Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy’n bencadlys yr ymchwiliad. 

Mae 42% o’r ysgolion wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru, 33.8% yn Ne Ddwyrain Cymru, 16.9% yng Ngorllewin Cymru a 8.4% yng Nghanolbarth Cymru.

Mae 38% wedi’u lleoli mewn ardaloedd Cymunedau’n 1af ac mae 40% yn ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog.

Mae 37% yn cymryd rhan yn y project am y tro cyntaf tra bo 63% wedi bod yn rhan o’r project am ddwy flynedd neu fwy.

Plannu hadau gwybodaeth

Danielle Cowell, 24 Medi 2010

Mae Amgueddfa Cymru yn paratoi i anfon bylbiau’r gwanwyn a photiau i 2,621 o wyddonwyr ysgol gynradd ar draws Cymru, fel rhan o’n ymchwil parhaol i effaith newid hinsawdd.

Rhoddwyd dros 3,000 o fylbiau drwy garedigrwydd y Really Welsh Company a chawsant eu pacio gan dîm o wirfoddolwyr hynod effeithlon. Bydd y bylbiau, y potiau a’r offer yn galluogi ysgolion i gofnodi’r tywydd a dyddiau blodeuo mewn 70 lleoliad ar draws Cymru.

Bydd pob ysgol yn cwblhau tasgau ac yn cadw cofnod drwy gydol y gaeaf a’r gwanwyn er mwyn ennill tystysgrifau gwyddonydd gwych a ddyfernir gan arweinydd y project – Athro’r Ardd. Mwynhaodd y gwirfoddolwyr y profiad ac roeddent yn fwy na pharod i gynorthwyo â logisteg y project gwerth chweil yma, fydd yn galluogi’r Amgueddfa i rannu’i gwybodaeth wyddonol ag ysgolion ar draws Cymru – dim ots pa mor anghysbell maen nhw.

Bydd yr ysgol sy’n ymroi fwyaf yn ennill trip casglu cennin Pedr gyda ffermwyr y Really Welsh company sy’n tyfu eu cynnyrch i gyd o fewn i Gymru.

Yr wythnos yma bydd gyrrwr y fan, Paul Evans, yn dosbarthu’r pecynnau ymchwil ar hyd ffyrdd troellog Cymru i sicrhau bod pob ysgol wedi derbyn eu bylbiau mewn pryd ar gyfer y diwrnod plannu mawr ar 20 Hydref. Mae Paul wedi gweithio i wasanaeth benthyg yr Amgueddfa Genedlaethol ers 20 mlynedd. 

Spring Bulb for Schools

Danielle Cowell, 9 Gorffennaf 2010

Investigation Results 2006-2010

The ‘Spring Bulbs for Schools’ project allows 1000s of schools scientists to work with Amgueddfa Cymru-National Museum Wales to investigate and understand climate change.

Since October 2005, school scientists across Wales have been keeping weather records and noting when their flowers open, as part of a long-term study looking at the effects of temperature on spring bulbs.

See Professor Plant's reports attached or download the spreadsheet to study the trends for yourself!

Many Thanks

Professor Plant

Cywion yn Sain Ffagan!

Danielle Cowell, 13 Mai 2010

Dilynwch ein camera nyth i weld y Titw Mawr yn Sain Ffagan!

http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/2736/

Cafodd wyth wy eu dodwy ar 27 Ebrill, ac fe ddeoron nhw ddoe o’r diwedd. Mae’r cywion mor fach nid oes modd eu gweld ond pan maent yn agor eu cegau. Mae Mr a Mrs Titw Mawr yn brysur yn bwydo eu teulu yn y goedwig yn Sain Ffagan.