Teganau a Gemau o’r Gorffennol
🔍 Darganfod ac Archwilio
Darganfyddwch y teganau roedd plant yn chwarae â nhw yn y gorffennol, ac mor wahanol maen nhw i deganau modern. Archwiliwch y casgliad o deganau traddodiadol sydd gennym i’w cyffwrdd. Profwch sut beth yw chwarae gyda chwpan a phêl, sgitls, a mwy.
✏️ Cymryd Rhan
Bydd y disgyblion yn cael cyfle i chwarae gyda theganau traddodiadol a’u cymharu â theganau modern.
ℹ️ Ynglŷn â’r sesiwn hon
Bydd y sesiwn yn digwydd yn ein gofod addysg pwrpasol.
Uchafswm o 30 disgybl.
Cwricwlwm
Y Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Iechyd a Lles
Mae datblygu iechyd a lle y corf yn arwain at fuddiannau gydol oes.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk