Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
🔍Darganfod ac Archwilio
Sut beth oedd siopa yng Nghymru yn y dyddiau cyn archfarchnadoedd? Archwiliwch Siop Gwalia, ein siop leol Gymreig o’r 1920au. Darganfyddwch pa gynnyrch oedd ar gael i siopwr ganrif yn ôl, a pha mor wahanol oedd y system arian a phwyso o gymharu â heddiw.
✏️ Cymryd Rhan
Cyfle i gwrdd â’r cynorthwyydd siop yn Siop Gwalia, ein siop o’r 1920au. Byddan nhw’n helpu cynorthwyydd y siop i gwblhau eu rhestr siopa a chymharu eitemau o’r gorffennol gyda phrofiad siopa modern.
ℹ️ Ynglŷn â’r sesiwn hon
Nid oes unrhyw ardal eistedd yn Siop Gwalia, ac ar rai dyddiau gall fod yn dywyll yno. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych unrhyw bryderon am y profiad hwn, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus.
Uchafswm o 30 disgybl.
Y Dyniaethau
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael ȃ’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.
Siop Gwalia
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostiwch addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk