Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Gan weithio gyda Google Arts and Culture rydym wedi creu rhith-daith newydd o dai teras Rhyd-y-car.
Ar y rhith-daith cewch ymweld â chwe chartref ar hyd y teras i weld sut mae’r ystafelloedd, y dodrefn a’r cynnwys yn newid rhwng 1805 a 1985.
Cliciwch yma i archwilio rhith-daith Rhyd-y-car.
Byw yn Rhyd-y-car
Y DYNIAETHAU | Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.
Bydd taith y dysgwyr trwy’r Maes hwn yn ysgogi ymholi a darganfod, wrth iddyn nhw gael eu herio i fod yn chwilfrydig ac i gwestiynu, i feddwl yn feirniadol a myfyrio ar dystiolaeth. Mae meddwl ymholgar yn ysgogi ffordd greadigol a newydd o feddwl, a thrwy hyn gall dysgwyr feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r cysyniadau sy’n sail i’r dyniaethau, a sut i’w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd eang. Gall meddylfryd o’r fath fod o gymorth i ddysgwyr ddeall profiadau pobl a’r byd naturiol yn well.