Gweithdy Amgueddfa

Môr Ladron Cymru | Barti Ddu

🔍 Darganfod ac Archwilio

Ewch ’nôl mewn amser i glywed straeon am fasnach, ysbail, a brwydrau môr-leidr mwyaf llwyddiannus Cymru – Barti Ddu. Yn ystod y gweithdy byddwch chi’n cwrdd â môr-leidr o Gymru, yn clywed stori Bartholomew Roberts a môr-ladron o Oes Aur y Môr-ladron. Cewch glywed sut byddai morwyr yn dod yn fôr-ladron, y swyddi roedden nhw’n eu gwneud, a’r bwyd roedden nhw’n ei fwyta. Yn bwysicaf oll, cewch glywed y gwirionedd am fywyd môr-leidr.

✏️ Cymryd rhan

Bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal gan hwylusydd mewn gwisg Môr-leidr. Bydd y disgyblion yn cael cyfle i ddal gwrthrychau go iawn, fel cleddyfau a pistolau Môr-ladron. 

ℹ️ Ynglŷn â’r sesiwn hon

Mae dal gwrthrychau fel cleddyfau a phistolau yn rhan o’r sesiwn, ac efallai y bydd y disgyblion yn arogli sbeisys fel clof a sudd leim. Rhowch wybod i ni pan fyddwch chi'n archebu os oes gennych unrhyw ddisgyblion a fyddai'n sensitif i'r profiadau hyn, a byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud i bawb deimlo'n gyfforddus.

Môr-ladron Cymru - ilyfr i defnyddio arol neu cyn ymweld. Yn rhad ac am ddim.

Beth am edrych ar gael ymweliad rhithwir AM DDIM gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau | Môr-ladron Cymru: Y Gwir Tu ôl i'r Tales

Hyd: 1 awr
Tâl: Dan arweiniad staff yr Amgueddfa – £40 am hyd at 15 disgybl, £60 am hyd at 35 disgybl. Am ddim i rai ysgolion (gwelwch sut i archebu).

Cwricwlwm

Dyniaethau

Mae ymholi, archwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffenol, ei bresennol a'i ddyfodol.

Nodau Dysgu

Drwy archwilio gwrthrychau morwrol, gallu adnabod tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng bywydau pobl yn y gorffenol a'r presennol. 

Archwilio story cymeriad hanesyddol môr leidr Bartholomew Roberts.

Darganfod pam oedd Barti Ddu yn un o'r môr ladron mwyaf llwyddianus wnaeth hwylior moroedd.  

Dyn wedi gwisgo fel môr-leidr yn dangos bocs trysor i blant.
Barti Du
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600

Adnoddau