Pan Oedd Glo yn Frenin: Cloddio am lo yng Nghymru (Gweithdy Rhithiol)
🔍 Darganfod ac Archwilio
Pa rôl mae'r diwydiant glo wedi'i chwarae yn hanes Cymru?
Dewch i ddysgu am hanes diwydiant glo Cymru a'i rôl wrth lunio Cymru fodern.
Darganfyddwch fwy am y dynion, y menywod a'r plant a oedd yn rhan o'r diwydiant glo yng Nghymru.
✏️ Cymryd Rhan
Dewch i gwrdd ag aelod o Dîm Addysg Big Pit yn y gweithdy rhithwir hwn a chymryd rhan mewn taith rithwir o’r diwydiant glo yng Nghymru. Lawrlwythwch ein tudalen weithgaredd am ddim a'i defnyddio yn ystod y gweithdy!
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Mae Pan oedd Glo yn Frenin yn trafod themâu iechyd ac anafiadau ac mae'n cyfeirio rhywfaint at farwolaeth.
Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r pynciau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus
.
Cwricwlwm
Dyniaethau: Ymholi, archwilio ac ymchwilio yn annog chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol. / Mae byd natur yn amrywiol a dynamig, a dan ddylanwad prosesau a gweithgarwch dyn.
Iechyd a lles: Mae sut fyddwn ni'n ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio ein personoliaeth ac yn effeithio ar ein hiechyd a'n lles.
Amcanion dysgu
- Adeiladu cnewyllyn gwybodaeth a meithrin y sgiliau i gymhwyso'r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau drwy ddysgu am hanes y diwydiant glo.
- Meddwl yn greadigol i ail-fframio a datrys problemau drwy ymchwilio i beryglon gweithio danddaear a chanfod ffyrdd o gadw'r glowyr yn ddiogel.
- Datblygu dealltwriaeth o'u diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a'u byd, ddoe a heddiw, drwy ddysgu am hanes meysydd glo Cymru a'u heffaith ehangach.
- Cymhwyso gwybodaeth am effaith diet ac ymarfer corff ar iechyd corfforol a meddyliol drwy ddysgu am fywyd bob dydd plentyn oedd yn gweithio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650