Mewn i'r Drifft: Profiad danddaear
🔍 Darganfod ac Archwilio
Beth yw glo a sut fyddai'n cael ei gloddio yng Nghymru?
Dysgwch am hanes y dynion, menywod, plant ac anifeiliaid fu’n gweithio dan ddaear.
✏️ Cymryd Rhan
Taith dywys o'n profiad glofaol, Brenin Glo.
Bydd disgyblion yn cael gwisgo fel glowyr a dilyn taith drwy replica o lofa ddrifft gydag aelod o'n tîm addysg.
ℹ️ Ynglŷn â'r sesiwn hon
Mae'r gweithdy ar gael bob dydd rhwng 10 ac 11am.
Rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych chi ddisgyblion a allai fod yn sensitif i’r profiadau hyn, ac fe wnawn ein gorau i wneud i bawb deimlo’n gyfforddus.
Cwricwlwm
Dyniaethau: Ymholi, archwilio ac ymchwilio yn annog chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol. Mae byd natur yn amrywiol a dynamig, a dan ddylanwad prosesau a gweithgarwch dyn.
Amcanion dysgu
- Adeiladu cnewyllyn gwybodaeth a meithrin y sgiliau i gymhwyso'r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau drwy ddysgu am hanes y diwydiant glo.
- Canfod, gwerthuso a defnyddio tystiolaeth i adeiladu barn a deall profiadau bywyd glowyr.
- Ymwneud â materion cyfoes a dysgu am effaith amgylcheddol y diwydiant glo.
- Defnyddio chwarae rôl i fagu'r hyder i berfformio a deall effaith gweithio mewn glofa ar iechyd a lles glöwr.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650