Bwystfilod Bach
🔍 Darganfod ac Archwilio
Oeddech chi’n gwybod fod gennym ni gychod gwenyn ar do’r Amgueddfa? Neu fod rhai o’n Gwyddonwyr Amgueddfa yn astudio pryfed? Darganfyddwch sut rydyn ni’n dosbarthu bwystfilod bach, archwilio eu cylchoedd bywyd, a dysgu sut maen nhw’n ein helpu ni a sut allwn ni eu helpu nhw.
✏️ Cymryd Rhan
Gan weithio fel gwyddonwyr a defnyddio sbesimenau pryfed go iawn o’n casgliadau, bydd dysgwyr yn archwilio bwystfilod bach yn fanwl gyda chwyddwydrau, cyn gweithio mewn timau i’w didoli yn grwpiau. Byddan nhw’n edrych ar gylch bywyd pryf sidan gan ddefnyddio enghreifftiau sydd wedi’u cadw, ac yn cydweithio i adeiladu cylchoedd bywyd pryfed. Yn olaf, byddan nhw’n atgyfnerthu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu trwy greu celf pryfed.
ℹ️ Am y Sesiwn hon
Mae’r sesiwn hon yn cynnwys edrych ar fwystfilod bach go iawn, sydd wedi’u cadw’n bennaf mewn blociau resin clir. Gall y rhain achosi pryder i rai disgyblion. Byddai modd defnyddio modelau i gyflawni rhai o’r amcanion dysgu os oes angen.
Cwricwlwm
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.
- Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.
Mathemateg a Rhifedd
- Defnyddir y system rif i gynrychioli a chymharu'r perthnasoedd rhwng rhifau a meintiau.
bwystfilod bach
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk