Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
🔍Darganfod ac Archwilio
Sut beth oedd hedfan yn y dyddiau cynnar? Gwrandewch ar stori awyren monoplan yr Amgueddfa, y ‘Robin Goch’, a’r dyfeisydd o Gaerdydd, Charles Horrace Watkins. Yn ystod y gweithdy darlunio ac ysgrifennu creadigol hwn, bydd y disgyblion yn archwilio straeon anhygoel am ddyddiau cynnar hedfan, gwyddoniaeth, dyfeisio, a chelf ar droad yr ugeinfed ganrif.
✏️Cymryd rhan
Bydd Thomas Docherty, awdur a darlunydd lleol clodwiw, yn ysbrydoli’r disgyblion i ddechrau eu taith lenyddol ddychmygus eu hunain.
ℹ️ Ynglŷn â’r sesiwn hon
Bydd Thomas Docherty yn eich tywys drwy weithdy darlunio ac ysgrifennu creadigol, wedi’i ysbrydoli gan stori wir y ‘Robin Goch’. Hwyl, hanesyddol, creadigol, ac ysbrydoledig!
Y Celfyddydau Mynegiannol
Mae archwilio'r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae'n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
Ieithoedd, Llythrenedd a Chyfathrebu
Mae llenyddiaeth yn tanio'r dychymyg ac yn ysbrydoli dychymyg.
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600