Robin Goch | Yr awyren gyntaf a adeiladwyd yng Nghymru
ℹ️ Ynglŷn a’r adnodd hwn
Gellir darllen yr adnodd hwn yn unigol neu fel dosbarth, ac mae wedi’i anelu at ddisgyblion Cam Cynnydd 3 (8-11 oed).
Yn yr adnodd hwn byddwch chi...
- Yn dysgu am hanes hedfan a’r bobl a ddyfeisiodd awyrennau.
- Yn darganfod straeon am ddyfeiswyr Cymru.
- Yn archwilio casgliad Amgueddfa Cymru o ddelweddau a gwrthrychau sy’n ymwneud â hedfan.
- Yn cael cyflwyniad i wyddoniaeth hedfan.
Cwricwlwm
Ieithoedd, Llythrenedd a Chyfathrebu
Mae llenyddiaeth yn tanio'r dychymyg ac yn ysbrydoli dychymyg.
Dyniaethau
Mae ymholiad, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, y presennol a'r dyfodol.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol i ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.