Y Celfyddydau Mynegiannol | Dylunio a hedfan
🔍Darganfod ac Archwilio
Gwrandewch ar stori gyffrous awyren monoplan y ‘Robin Goch’, sef yr awyren â motor gyntaf i gael ei hadeiladu yng Nghymru. Dysgwch am yr holl ddeunyddiau annisgwyl gafodd eu defnyddio i’w chreu, a’r dirgelwch ynghylch a wnaeth hi erioed godi i’r awyr!
✏️Cymryd rhan
Mae’r gweithdy hwn yn cael ei arwain gan y darlunydd a’r awdur clodwiw lleol Thomas Docherty. Bydd Thomas yn egluro’r broses o ddod â stori ddarluniadol yn fyw ar y dudalen, ac yn eich helpu i greu eich darluniau eich hunan yn seiliedig ar stori wir anhygoel y ‘Robin Goch’.
Bydd gennych gyfle i weld yr awyren monoplan go iawn yn yr amgueddfa, a adeiladwyd gan Charles Horace Watkins ym 1908, ac fe gewch chi hyd yn oed eistedd yn replica sedd y capten sydd ar ddangos.
ℹ️Ynglŷn â’r sesiwn hon
Byddwch chi’n cwrdd â Thomas Docherty, a fydd yn eich tywys drwy weithdy ysgrifennu creadigol a darlunio sydd wedi’i ysbrydoli gan stori wir y ‘Robin Goch’, a adeiladwyd gan y dyfeisydd a’r peiriannydd o Gaerdydd, Charles Horace Watkins. Hwyl, hanesyddol, creadigol, ac ysbrydoledig!
Cwricwlwm
Y Celfyddydau Mynegiannol
Mae archwilio'r celfyddydau mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae'n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol.
Ieithoedd, Llythrenedd a Chyfathrebu
Mae llenyddiaeth yn tanio'r dychymyg ac yn ysbrydoli dychymyg.
Sut i archebu
I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3600